Mae wedi cael ei gyhoeddi bod naw prosiect a fydd yn helpu i adfywio canol trefi yn y canolbarth wedi cael hwb, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Diolch i raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae gan bum prosiect ym Mhowys a phedwar yng Ngheredigion gyllid gwerth ychydig dros £1.3m, a rhagwelir y bydd hyn yn sbarduno buddsoddiad posibl gwerth ychydig dros £3m.  Mae'r naw prosiect hyn yn rhan o'r cynllun 'Grant Creu Lleoedd' trosfwaol sy'n rhan o'r rhaglen Trawsnewid Trefi. 

Ymhlith y prosiectau sy'n elwa o'r Grant Creu Lleoedd mae cyn-ysgolion, banciau, swyddfeydd ac adeiladau eiconig segur a fydd yn gweld eiddo masnachol, unedau preswyl a busnesau bach yn cael eu creu ac yn dod â bywyd newydd i ganol trefi. 

Bydd y prosiectau hyn yn digwydd yng nghanol y trefi canlynol sef Aberystwyth, Aberteifi a Llandysul yng Ngheredigion, a Llanidloes, Machynlleth, Y Trallwng ac Ystradgynlais ym Mhowys.

Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Trawsnewid Trefi sy’n darparu £7 miliwn ychwanegol i adfywio canol trefi yng nghanolbarth Cymru dros dair blynedd. Yn ogystal â'r Grant Creu Lleoedd, mae nifer o brosiectau strategol allweddol hefyd wedi'u hariannu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi i brosiectau gwerth £12 miliwn ddigwydd gyda chyllid drwy fenthyciadau yn y rhanbarth.

Mae canol trefi yn rhan hanfodol a phersonol o dreftadaeth a chymuned canolbarth Cymru, ac mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn ymroddedig i wasanaethu a chysylltu’r bobl sy’n byw, gweithio ac yn treulio amser hamdden ynddynt.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi eisoes wedi dechrau cyflawni newid go iawn, a bydd ein hymrwymiad o £125 miliwn ychwanegol dros dair blynedd o fudd pellach i gymunedau ledled Cymru. Mae angen ymdrech ar y cyd i helpu i fynd i'r afael â'r heriau y mae llawer o drefi yn eu hwynebu a byddwn yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â'r camau a nodir yn y Datganiad Sefyllfa Canol Trefi a gyhoeddwyd yn ddiweddar."

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: "Mae nifer o ddatblygwyr eisoes wedi elwa o'r ymyraeth grant hwn i gefnogi prosiectau adfywio yn ein trefi. Gyda'r £100m ychwanegol hwn, mae'r cyfle yn bodoli ar gyfer prosiectau pellach, o seilwaith gwyrdd i welliannau masnachol a phreswyl.  Byddwn yn gofyn i'r rhai sy'n gymwys ac sydd â syniad am ddatblygiadau canol tref i gysylltu â’r tîm am y gronfa Trawsnewid Trefi."

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Ffyniannus:  "Rydym wedi ymrwymo i weithio i fynd i'r afael â'r heriau economaidd sy'n wynebu ein cymunedau a'n busnesau ar hyn o bryd. Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi canol ein trefi, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gadarn nawr ac i'r dyfodol.

"Bydd y rhaglen Trawsnewid Trefi yn ein helpu i gyflawni hyn ac rwyf wrth fy modd bod canol trefi yn y rhanbarth yn parhau i elwa o'r buddsoddiad hwn, gan sicrhau bod ein trefi hardd yng nghanolbarth Cymru yn cael eu hadfywio ac yn parhau i fod yn lle ffyniannus i fyw, gweithio ac ymweld â nhw."

 

14/06/2023