Bydd Baneri Glas yn cael eu chwifio unwaith eto ar bump o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion yn 2023.

Mae’r rhain yn cynnwys Y Borth, De Aberystwyth, Llangrannog, Tresaith ac Aberporth. Mae pedwar traeth ychwanegol wedi ennill statws Gwobr Glan Môr a phump arall wedi ennill Gwobrau Arfordir Glas.

Rhaid i draethau sy'n ennill gwobrau'r Faner Las ac Arfordir Glas gyrraedd y safon ansawdd dŵr uchaf, sef “Rhagorol”, a chânt eu beirniadu am ddarparu cyfleusterau i ddefnyddwyr traethau ac am ddangos rheolaeth dda a darpariaeth diogelwch. Mae’r Wobr Glan Môr yn cydnabod traethau sy’n cyrraedd safon “Da” ar gyfer ansawdd dŵr, cyfleusterau cyhoeddus, darpariaeth diogelwch a rheolaeth.

Mae’r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddatblygu Economaidd a Thwristiaeth wedi croesawu’r newyddion bod nifer o’n traethau yn parhau i gael eu cydnabod yn y modd hwn, gyda’r gwobrau meincnod ansawdd hyn. Dywedodd: “Mae’n wych gweld baneri gwobrau’r Faner Las a Glan Môr yn chwifio ar draethau ymdrochi mwyaf poblogaidd Ceredigion eto eleni, ac rydym yn llwyr ddisgwyl gweld ein harfordir a’n traethau’n brysur iawn unwaith eto drwy gydol y tymor. Mae hyn wedi’i gyflawni gyda chefnogaeth barhaus a gwerthfawr y grwpiau gwirfoddol ac unigolion niferus sy’n hyrwyddo neges Caru Ceredigion, trwy gynnal gweithgareddau addysgol a glanhau rheolaidd ar ein traethau ac ar hyd blaendraeth Ceredigion. Unwaith eto, mae hyn wedi cyfrannu’n fawr at ein gallu i gyflwyno cynifer o’n traethau a llwyddo i ennill y gwobrau mawreddog, sy’n gosod traethau Ceredigion ymhlith y gorau oll yng Nghymru a’r DU.”

Mae’r traethau canlynol yng Ngheredigion wedi ennill gwobrau arfordirol 2023:

Baner Las

Gwobr Glan Môr

Arfordir Glas

Y Borth

Clarach

Llanrhystud

De Aberystwyth

Gogledd Aberystwyth

Ceinewydd – Traeth Gwyn

Llangrannog

Ceinewydd – Traeth y Harbwr

Cilborth – Llangrannog

Tresaith

Ceinewydd – Dolau/Gogledd

Penbryn

Aberporth

 

Mwnt

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a rhanddeiliaid eraill i gynnal yr ansawdd gorau posibl ar gyfer dŵr ymdrochi er mwyn galluogi’r cyhoedd i barhau i ymdrochi/nofio â hyder ar ein traethau ymdrochi dynodedig.

Caiff y cynlluniau gwobrau arfordirol yng Nghymru eu cydlynu a’u gweinyddu gan Cadwch Gymru’n Daclus.

 

16/05/2023