Bydd astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu darpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion.
Yn ystod cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 07 Tachwedd 2023, rhoddodd Aelodau’r Cabinet gyfarwyddyd i Ysgolion a Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes i gynnal astudiaeth ddichonoldeb fanwl i edrych ar wahanol opsiynau i sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth addysg ôl-16 yn y sir yn y dyfodol.
Yn 2022, anfonwyd arolygon at grwpiau allweddol, sef dysgwyr, rhieni, gofalwyr, athrawon a chyflogwyr, a chafwyd cyfanswm o 1,306 o ymatebion gan yr unigolion hyn. Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda chynrychiolwyr o ddarparwyr addysgol, yr awdurdod lleol a phartneriaid eraill.
Cafodd pedwar opsiwn eu hystyried gan Aelodau’r Cabinet ar gyfer dyfodol y ddarpariaeth, sy’n cynnwys:
- Opsiwn 1: Cynnal y Sefyllfa Bresennol
- Opsiwn 2: Datblygu'r Sefyllfa Bresennol Ôl-16 – byddai’r ddarpariaeth ôl-16 yn parhau ar y chwe safle presennol
- Opsiwn 3: Darpariaeth mewn rhai ysgolion – byddai hyn yn golygu cau'r ddarpariaeth ôl-16 mewn un neu fwy o safleoedd.
- Opsiwn 4: Un Ganolfan Ragoriaeth – sefydlu Canolfan Ragoriaeth, yn cynnwys ystod o bartneriaid, mewn un neu fwy o safleoedd daearyddol addas
Bu'r Aelodau Cabinet hefyd yn ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Dysgu, a daeth y Cabinet i'r casgliad y dylai'r astudiaeth ddichonoldeb ganolbwyntio, yn y lle cyntaf, ar opsiynau 2 a 4.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Nod yr adolygiad hwn yw edrych ar ffyrdd o gynnal a datblygu safon eithriadol yr addysg a gynigir i ddisgyblion yng Ngheredigion. Yn ogystal â hyn, darparu cyfleoedd i ddisgyblion gael mynediad i ystod eang o bynciau, gan gynnwys pynciau galwedigaethol, a gyflwynir gan athrawon ymroddedig eithriadol. Rydym am sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu manteisio’n llawn a chyflawni eu gwir botensial wrth iddynt barhau â’u hastudiaethau ôl-16.”
07/11/2023