Mae profiad trawsffiniol newydd i ymwelwyr, yn edrych ar fywyd ein hymsefydlwyr cynharaf, wedi agor yn Amgueddfa Ceredigion. Bydd yr adnodd hygyrch, am ddim hwn yn archwilio tystiolaeth o fywyd yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig.

Mae ymchwilwyr y prosiect peilot trawsddisgyblaethol Portalis, yn gweithio gyda chwe chymuned arfordirol, wedi bod wrthi’n chwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru, yn dyddio’n ôl i 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Wedi’i lansio gan dîm y prosiect Portalis, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Ceredigion, mae’r profiad parhaol ar gyfer ymwelwyr yn cynnwys arddangosfa o arteffactau Mesolithig a Neolithig o Geredigion, a byrddau stori unigryw sy’n archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Rwyf wrth fy modd bod gwaddol yr arddangosfa Portalis dros dro poblogaidd ar gael bellach yn ein Horiel Archaeoleg. Yn ogystal â’r arddangosfa barhaol, mae gennym adnoddau addysgiadol newydd ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys pensetiau PR fel bod disgyblion yn gallu archwilio ail-gread o anheddiad Mesolithig.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies: “Mae'r môr yn elfen aruthrol o bwysig i bobl Ceredigion ac wedi bod ar hyd y canrifoedd ac mae cael arddangosfa sy'n dathlu'r cysylltiad y mae'r môr wedi ei roi i ni gydag Iwerddon yn hyfryd o beth.”

Dywedodd Joy Rooney, Uwch Swyddog ac Arweinydd Dylunio Portalis, Darlithydd ac Ymchwilydd Dylunio, SETU: “Mae’r adnodd newydd parhaol hwn ar gyfer ein chwe chymuned arfordirol a’u hymwelwyr yn helpu i adrodd stori ein data newydd hynod unigryw, ac mi fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb yn ein treftadaeth arfordirol ddiwylliannol a naturiol yn y cyfnod heriol sydd o’n blaenau. Mae Prifysgol Dechnolegol y De Ddwyrain (SETU) yn datblygu llwybrau ariannu pellach i helpu i sicrhau bod cynnyrch prosiectau peilot yn gynaliadwy ac yn seiliedig ar ymchwil pellach.”

 Mae mynediad i’r profiad Portalis parhaol i ymwelwyr yn Amgueddfa Ceredigion am ddim, a does dim angen archebu ymlaen llaw.

Mae’r prosiect Portalis, gwerth €1.95m, yn cael ei gefnogi gan €1.5m o gyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredol Cymru ac Iwerddon: Ireland Wales. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan SETU ac yn cael ei gefnogi gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.

10/08/2023