Cynhaliwyd agoriad swyddogol ar 07 Gorffennaf, ar gyfer Canolfan Integredig i Blant yr Eos a leolir ar Gampws Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth, yn ogystal â Chylch Meithrin Llanarth.

Croesawyd staff a chynghorwyr i'r cyfleuster, a agorwyd yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Maldwyn Lewis.

Ariannwyd adeiladu'r ddau gyfleuster drwy Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru i gefnogi darpariaeth Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant yng Ngheredigion, gyda'r ddau brosiect adeiladu yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae Canolfan Integredig i Blant yr Eos yn cefnogi cyflwyno Rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru a dyma’r ganolfan ar gyfer Dechrau'n Deg ym Mhenparcau, Aberystwyth. Mae'r adeilad newydd yn cefnogi'r gwaith integredig gan gynnwys Ymwelydd Iechyd; Therapi Iaith a Lleferydd; Rhaglenni Rhianta a Gofal Plant. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i blant a theuluoedd, gan gynnwys gweithgareddau fel, tylino babanod, grwpiau rhieni ifanc, cefnogaeth lleferydd ac iaith, sgrinio clyw newydd-anedig a gofal plant Dechrau'n Deg.

Mae Cylch Meithrin Llanarth, sydd wedi'i leoli ar Gampws Ysgol Gynradd Llanarth, yn gyfleuster modern pwrpasol ar gyfer Gofal Plant i blant 2-4 oed a bydd yn darparu amgylchedd addas i'r diben a chroesawgar i gefnogi'r gwaith sy'n digwydd yma.

Wrth agor y cyfleusterau, dywedodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd y Cyngor: "Mae'r canolfannau hyn yn fwrlwm o weithgaredd ac mae'n dwyn ynghyd awdurdodau lleol, iechyd a phartneriaid trydydd sector i ddarparu gwasanaeth cyfannol i blant a theuluoedd yn yr ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cyllid, y staff hynny a fu'n rhan o'r gwaith o gynllunio a rheoli'r prosiectau adeiladu yma.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ceredigion neu dilynwch ein tudalen Facebook; Teuluoedd Ceredigion Families.

07/07/2023