Ar 13 Mehefin 2023, teithiodd Aled Lewis, disgybl Ysgol Gyfun Aberaeron sy’n cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain fel Aelod Seneddol Ifanc, ac Ifan Meredith, disgybl yn Ysgol Bro Pedr a Chadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, i Lundain i gwrdd ag AS Ceredigion, Ben Lake.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch San Steffan gan AS Ben Lake, sesiwn holi ac ateb, cyfarfod staff ac aelodau seneddol eraill, a chyfle i eistedd yn yr oriel wylio a gwrando ar ddadleuon oedd yn digwydd yn y siambr. Roedd y daith yn gyfle i bobl ifanc ddysgu am hanes Palas San Steffan, gwaith Senedd y DU, sut y defnyddir y mannau gweithio amrywiol yr ymwelwyd â hwy a ffyrdd y gall pobl ifanc gymryd rhan ac ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.

Dywedodd Aled Lewis, ASI Prydain dros Geredigion: “Rwy’n ddiolchgar am gyfle mor anhygoel ac ysbrydoledig i gael cipolwg ar fywyd gwaith Aelodau Seneddol yn ogystal â dysgu am hanes San Steffan a gweld dadl fy hun.”

Dywedodd Ifan Meredith, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Roedd yn bleser cyfarfod â Ben Lake yn y Senedd yn ystod y sesiwn ac i deithio o gwmpas mannau ag arwyddocâd gwleidyddol mawr yn Whitehall a Stryd Downing. Roedd yn brofiad gwych i weld sut mae busnes seneddol yn gweithio y tu ôl i’r llenni a swyddi Aelodau Seneddol pan fyddant y tu allan i’r siambr.”

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ben Lake a’i swyddfa am roi cyfle mor wych i ni eto eleni. Fe wnaethon ni fwynhau teithio i Lundain a threulio’r prynhawn gydag ef, yn cael golwg ‘tu ôl i’r llenni’ o ystâd Seneddol San Steffan, a dysgu mwy am rôl Aelodau Seneddol a’u gwaith. Cafodd y bobl ifanc eu hysbrydoli gan y cyfle ac fe wnaethon ni fwynhau’r profiad yn fawr.”

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ymgysylltu a chymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac mae hon yn un o sawl ffordd y gallwn gefnogi’r ymgysylltiad hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar i’n AS lleol Ben Lake am ei gefnogaeth barhaus i alluogi pobl ifanc i gael y cyfleoedd hyn.”

19/06/2023