Mae'r amrywiolyn Omicron newydd yn lledaenu'n gyflymach na phob amrywiolyn arall o COVID-19. Er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, mae angen i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb a gwneud ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae achosion o COVID-19 (amrywiolyn heb ei nodi) yn dechrau cynyddu eto yng Ngheredigion. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl yn gorfod hunanynysu, sy'n golygu bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu mwy o heriau. 

Rydym yn rhoi mesurau ar waith i ddiogelu'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i'r rhai mwyaf bregus yn y Sir. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud trefniadau i adleoli staff i wasanaethau hanfodol, lle bo angen. Bydd hyn yn golygu blaenoriaethu rhai gwasanaethau ac atal rhai eraill ar fyr rybudd yn ôl yr angen.

Helpwch i gadw pawb yn ddiogel:

Gallwch gasglu profion llif unffordd am ddim o fferyllfeydd (nid oes angen archebu) neu gallwch eu harchebu ar-lein i’w cael drwy’r post o GOV.UK.

Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf o'r brechlyn eto, nid yw'n rhy hwyr i wneud hynny – er mwyn amddiffyn eich hun, y bobl o'ch cwmpas, a'r gymuned ehangach. Os ydych dros 65 oed ac nad ydych wedi cael apwyntiad ar gyfer brechiad atgyfnerthu eto, neu os yw hi wedi bod dros 26 wythnos ers i chi gael eich ail ddos ac nad ydych wedi cael apwyntiad, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn uniongyrchol https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/cais-am-frechlyn/

 

14/12/2021