Mae Llyfrgell Ceredigion yn cynnal cystadleuaeth ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni er mwyn annog holl blant a phobl ifanc y sir i ymaelodi â’r llyfrgell a mwynhau darllen.

Mae’r gystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 3 ac 18 oed i ennill iPad newydd sbon. Y cyfan sydd yn rhaid ei wneud yw ymuno â Llyfrgell Ceredigion yn rhan o’n hymgyrch Diwrnod y Llyfr, sef ‘Pob Plentyn yn Aelod’, a bydd eich enw yn cael ei roi yn yr het am gyfle i ennill iPad. 

Bydd yr ymgyrch ‘Pob Plentyn yn Aelod’ yn cael ei gynnal rhwng ddydd Iau 4 Mawrth 2021 a dydd Iau 26 Mawrth 2021, a hynny er mwyn nodi Diwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth 2021. Y nod yw annog cymaint o blant â phosibl i ymaelodi â’u llyfrgell leol dros y We yn ystod y cyfnod hwn.

I ymaelodi, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion, chwilio am ddolen Llyfrgell Ceredigion, mynd i’r rhan ‘Ymuno â’r llyfrgell’, a llenwi’r ffurflen er mwyn cofrestru. 

Cadwch eich rhif cerdyn dros dro a’ch rhif pin yn ddiogel, ac fe gewch fynediad yn syth at y casgliad gwych o e-lyfrau a llyfrau llafar i blant sydd gan y llyfrgell. Wedyn, pan fydd y llyfrgelloedd yn ailagor, gallwch ddod i gasglu eich cerdyn llyfrgell go iawn a chael mynediad at yr holl lyfrau print sydd gennym mewn stoc.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid: “Mae gan Llyfrgell Ceredigion gyfoeth o ddeunyddiau darllen y gall plant a phobl ifanc eu mwynhau o’u cartrefi. Anogwn bawb i ymaelodi â’u llyfrgell leol er mwyn manteisio ar y casgliad arbennig hwn, ynghyd â mwynhau popeth y gall darllen ei gynnig.”

Os ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell, peidiwch â phoeni. Anfonwch e-bost at llyfrgell@ceredigion.gov.uk gyda’ch enw a rhif eich cerdyn llyfrgell, ac fe rown ni eich enw chi yn yr het hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyfrgell Ceredigion neu dilynwch @llyfrgellceredigionlibrary ar Facebook.

23/02/2021