Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ystod o fesurau i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19.

Mae cyhoeddiad mewn perthynas â'r cymorth ariannol hwn o £120m i fusnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan Omicron i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/120-miliwn-o-gymorth-ariannol-i-fusnesau-yng-nghymru-yr-effeithiwyd-arnynt-gan-omicron

Nid yw meini prawf cymhwysedd a manylion y mesurau wedi'u cwblhau eto, ond byddant yn cynnwys y canlynol:
• Cynllun newydd ar gyfer busnesau hamdden a manwerthu sy'n destun Ardrethi Annomestig. Bydd y cynllun hwn yn cael ei reoli gan Awdurdodau Lleol a bydd yn cael ei lansio yn gynnar yn 2022.
• Bydd cronfa ddewisol ar gyfer busnesau nad ydynt yn destun Ardrethi Annomestig. Bydd y cynllun hwn yn cael ei reoli gan Awdurdodau Lleol a bydd yn cael ei lansio'n ddiweddarach ym mis Ionawr 2022.
• Bydd Cronfa Cadernid Economaidd ar gyfer y sector lletygarwch. Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli’r gronfa hon.

Bydd rhagor o fanylion am y mesurau'n cael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd, a bydd cymorth ar gael i gwmpasu'r cyfnodau y mae’r cyfyngiadau wedi effeithio ar fusnesau.

Unwaith y bydd y manylion yn cael eu cadarnhau, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn rhoi diweddariad gyda gwybodaeth bellach.

O ganlyniad i'r pecynnau cymorth brys newydd, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu ei Chronfa Datblygu Busnes gwerth £35m yn ôl, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, er mwyn ail-ddyrannu a phrosesu taliadau brys cyn gynted â phosibl. Bydd yr holl gynigion presennol, wrth gwrs, yn cael eu hanrhydeddu.

Yn y cyfamser, ar gyfer unrhyw wybodaeth a chymorth arall i fusnesau, ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/

23/12/2021