Cynhaliwyd Wythnos y Gofalwyr rhwng 8 ac 14 Mehefin 2020 ledled y DU. Ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol ydyw a gynhelir i ddathlu a chydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan y 6.5 miliwn o ofalwyr di-dâl yn y DU sy’n gofalu am aelodau o’r teulu a ffrindiau na allent ymdopi ar eu pen eu hunain.

I ddathlu Wythnos y Gofalwyr 2020 yng Ngheredigion, nid oedd Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion a’i phartneriaid yn gallu trefnu digwyddiad cyhoeddus mawr i ofalwyr yn ôl yr arfer. Yn hytrach, trefnwyd rhaglen arbennig o weithgareddau ar-lein i ofalwyr yn ystod Wythnos y Gofalwyr.

Cynhaliwyd dros 30 o wahanol weithgareddau ar-lein yn ystod Wythnos y Gofalwyr, megis sesiynau lles, myfyrdod, a chelf a chrefft. Cynhaliwyd y rhaglen ar draws pob un o’r saith diwrnod Wythnos y Gofalwyr, ac roedd gweithgareddau byw i ofalwyr gael mynediad atynt gyda’r hwyr yn ogystal â’r dydd, ac roedd gweithgareddau wedi’u recordio ar gael i ofalwyr gymryd rhan ynddynt ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Dywedodd un gofalwr: “Ymddiheuriadau nad oeddwn i’n gallu ymuno â chi pan roeddech chi’n fyw ar-lein, roeddwn i’n gweithio, ond cefais gymaint o hwyl yn eich gwylio yn fy amser fy hun! Llongyfarchiadau ar wythnos o sesiynau gwych! Rwy’n gobeithio y byddaf i’n gallu eich gwylio chi’n fyw yfory, yn dibynnu ar fy llwyth gwaith! Mae’n teimlo fel fy mod i yn yr ystafell gyda chi!”  

Yn ogystal, cyhoeddodd yr Uned Gofalwyr ‘drysorfa wybodaeth i ofalwyr’ a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwasanaethau lleol yng Ngheredigion ar gyfer gofalwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt; syniadau hwyl eraill ar gyfer sut i ddathlu Wythnos y Gofalwyr, ac awgrymiadau ynglŷn â sut i edrych ar ôl y meddwl a’r corff a ffyrdd o roi hwb i’ch hwyliau.

Nid oes gan bob gofalwr fynediad at y we, felly trefnodd yr Uned Gofalwyr bod dros 850 o becynnau lles yn cael eu dosbarthu i ofalwyr sydd wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar draws Ceredigion. Mae gofalwyr wir yn arwyr di-glod, ac maent yn gwneud gwaith gwych. Dim ond arwydd bach o werthfawrogiad Cyngor Sir Ceredigion am bopeth y mae gofalwyr yn ei wneud oedd y pecynnau lles. Dywedodd gofalwyr: “Roedd yn beth caredig iawn i’w wneud, ac ar ôl mwy na 3 mis o’r cyfnod clo, roedd yn newid braf i'r drefn ddyddiol. Mae clywed gan bobl sy'n deall yr anawsterau ynghlwm â bod yn ofalwr yn golygu llawer yn ystod y cyfnod anodd hwn” a “roedd yr eitemau yn hyfryd, ond roedd gwybod bod rhywun yn meddwl amdanaf ac yn gwerthfawrogi’r hyn yr wyf yn ei wneud yn golygu cymaint mwy.”

Mewn neges fideo arbennig ar-lein i nodi diwedd Wythnos y Gofalwyr, diolchodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Eiriolwr ar gyfer Gofalwyr, i bawb a oedd wedi sicrhau bod yr ystod eang o weithgareddau ar gael i ofalwyr yn ogystal ag i’r gofalwyr eu hunain hefyd. Dywedodd: “Fel gofalwyr di-dâl, mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy, diolch o waelod calon.”

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch cymorth i ofalwyr ar gael yma: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-ofalwyr

07/07/2020