Gofynnwyd i nifer fach o ddisgyblion yn Ysgol Henry Richard, Tregaron hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.

Gofynnwyd i’r Grŵp Cyswllt i hunan-ynysu fel mesur rhagofalus yn y lle cyntaf. Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Yn ogystal, cysylltwyd â disgyblion sy'n teithio ar yr un bws â'r achos cadarnhaol a gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 14 diwrnod hefyd fel mesur rhagofalus yn y lle cyntaf. Daw'r disgyblion hyn o fwy nag un Grŵp Blwyddyn o Ysgol Henry Richard.

Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond nifer bach o ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob rhiant a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.

Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
• tymheredd uchel
• peswch parhaus newydd
• colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru neu trwy ffonio 119.

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.

27/10/2020