Gyda'r tywydd cynnes, heulog a sych yr ydym wedi bod yn ei fwynhau'n ddiweddar, ac wrth i reolau'r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio yng Nghymru, mae'r neges wedi newid o “arhoswch gartref” i “arhoswch yn lleol”, sydd i'w weld yn gyfle perffaith i ddechrau mwynhau'r cefn gwlad a'r traethau gwych sydd gennym i'w cynnig. Fodd bynnag, ers y cyhoeddiad ar ddydd Gwener 29 Mai, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC ) wedi mynychu dros 98 o danau glaswellt a gafodd eu cynnau naill ai'n fwriadol neu'n ddamweiniol.

Gan gydnabod yr effaith y mae'r tanau hyn yn ei chael ar ein cymunedau, mae GTACGC yn gweithio mewn partneriaeth â'r pedwar Awdurdod Lleol (Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Benfro), Heddlu Dyfed Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw, mewn ymgais i fynd i'r afael â'r broblem hon a diogelu'r amgylchedd hanesyddol, y cynefinoedd naturiol a'r cefn gwlad o'n cwmpas.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Gall tanau achosi dinistr a difetha bywydau. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fod yn feddylgar o'r bobl eraill, yr anifeiliaid, y cynefinoedd naturiol a'r adeiladau sydd o'n cwmpas. Rydym yn ddiolchgar i'n trigolion sy'n cadw ein cymunedau'n gryf ac yn gydnerth yn ystod y cyfnod heriol hwn, a hynny trwy gymryd y rhagofalon cywir a dilyn cyngor ar ddiogelwch mewn perthynas â thanau a barbeciws.”

Yn ystod yr haf, gall glaswellt a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy'n golygu y bydd tân y byddwch yn ei gynnau'n fwriadol neu'n ddamweiniol yn lledaenu'n gyflym iawn, gan ddinistrio popeth sydd o'i flaen. Ar y cyfan, ni chaiff y niwed i'r dirwedd o amgylch, na'r effaith ar nodweddion hanesyddol, cynefinoedd na bywyd gwyllt, eu cydnabod. O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym oll yn eu hwynebu, tanau gwyllt yw'r peth olaf y mae eu hangen ar dirwedd Cymru.

Rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhagofalon a dilyn y cyngor ar ddiogelwch isod:

• Diffoddwch sigaréts a deunyddiau smygu eraill yn gywir – peidiwch â'u taflu allan o ffenestri ceir.
• Defnyddiwch farbeciws mewn ardaloedd addas a diogel yn unig; peidiwch byth â'u gadael heb neb yn cadw golwg arnynt, a diffoddwch nhw'n iawn bob amser. • Peidiwch â chynnau tanau yng nghefn gwlad – mae llystyfiant sych yn golygu y bydd tanau'n lledaenu'n gyflym ac yn hawdd.
• Sicrhewch fod eich barbeciw yn gweithio'n iawn cyn i chi ei ddefnyddio.
• Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael i'ch barbeciw oeri cyn cael gwared arno neu ei symud.
• Peidiwch byth â chynnau tanau agored yng nghefn gwlad.

Mae angen i ni gydweithio i gefnogi ein cymunedau yn ystod yr epidemig COVID-19, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch ein teulu a'n ffrindiau, ein cymdogion, aelodau o'r cyhoedd a'n Gwasanaethau Brys. Mae tanau glaswellt bwriadol yn lleihau ansawdd aer ac yn tynnu gwasanaethau brys gwerthfawr i ffwrdd o ddigwyddiadau achub bywyd, felly rydym yn apelio ar bawb i'n helpu ni i'w helpu nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Os byddwch yn gweld unrhyw un yn cynnau tân yn fwriadol, ffoniwch yr Heddlu ar 101, neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. I roi gwybod am dân glaswellt sydd ynghyn, ffoniwch 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân.

25/06/2020