Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi diwygio ei bolisi Cam-drin Domestig i adlewyrchu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar gam-drin domestig. Cymeradwywyd y polisi diwygiedig gan y Cabinet ar 17 Rhagfyr ac mae'n adlewyrchu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).

Mae rhaglen hyfforddi sylweddol yn cael ei gyflwyno ar draws y cyngor i wneud yn siŵr bod staff yn gwybod sut i adnabod arwyddion cam-drin domestig, gwybod beth i'w wneud a ble i gyfeirio ato am gymorth arbenigol.

Y Cynghorydd Ray Quant yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am bobl a sefydliad. Dywedodd, “Mae dyletswydd arnom i ddiogelu unrhyw aelod o staff sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'n bwysig ein bod yn diweddaru ein polisïau er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. Rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud hynny.”

I hyrwyddo'r polisi newydd ac ymwybyddiaeth o'r ymgyrch ‘Stand up and Speak’ y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd, gwisgodd aelodau o wasanaeth pobl a sefydliadau'r cyngor rubanau gwyn

03/01/2020