Mae’r rheiny sy’n cynnal meysydd chwarae’r sir wedi cael eu hysbysu i gau holl feysydd chwarae o ddydd Llun, 23 Mawrth 2020.

Nid yw hyn wedi bod yn benderfyniad hawdd gan eu bod yn lefydd i bawb eu mwynhau. Er hyn, mae’n debyg eich bod wedi sylwi bod pobl yn parhau i ymgynnull mewn parciau chwarae ac ardaloedd cymunedol. Mae’n rhaid i ni ddiogelu ein cymunedau ag ymdrechu i sicrhau bod pobl yn cadw draw o leoedd lle gallant ddod at ei gilydd, yn enwedig plant a phobl ifanc sydd ddim yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd. Adroddir hefyd bod hi’n bosib i Coronafeirws aros ar arwynebau, gan gynnwys metelau a phlastigiau.

Mae’r Cyngor yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob perchennog/rheolwr maes chwarae yng Ngheredigion sicrhau bod y gymuned yn cadw o’r lle chwarae. Mae hyn yn cynnwys lleoedd cymunedol, parciau a pharciau sgrialu.

Os oes giât neu ffens mewn maes chwarae, byddant yn cael eu cloi gyda phoster ynghlwm wrth y fynedfa. Os nad oes giât neu ffens, bydd poster yn cael ei arddangos mewn man addas fel y gall y cyhoedd ddeall nad yw hi’n ddiogel iddynt ddefnyddio’r ardal chwarae ar hyn o bryd.

Diolchwn i bawb sy’n helpu delio gyda Coronafeirws yn gyfrifol.

23/03/2020