Yn y Flwyddyn Newydd bydd cyfle i bobl gogledd Ceredigion a thu hwnt ddysgu’r ukulele trwy gyfrwng y Gymraeg ar gwrs 8 wythnos ‘Iwcadwli i Ddechreuwyr’. Bydd y cwrs yn cael ei reged gan Cered yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Ar gwblhau’r cwrs mi fydd modd ymaelodi gyda cherddorfa ukulele hynod o boblogaidd Iwcadwli a pherfformio ar draws y fro.

Ers sefydlu yn Hydref 2018, mae Iwcadwli wedi mynd o nerth i nerth gydag unigolion o gefndiroedd gwrthgyferbyniol yn dod at ei gilydd yn wythnosol i ddysgu chwarae’r ukulele ac i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Iwcadwli wedi perfformio yn rheolaidd ar draws Gogledd Ceredigion ac wedi cyfareddu cynulleidfaoedd o bob math gyda’u detholiad hwyliog o ganeuon Cymraeg.

Gan ymateb i alw gan ddarpar-aelodau fe wnaeth Cered gynnal cwrs carlam i ddechreuwyr dros y misoedd diwethaf gyda 15 unigolyn yn cwblhau’r cwrs. Bellach mae’r gerddorfa wedi tyfu i oddeutu 35 aelod ac mae galw o’r newydd gan drigolion lleol sydd am allu ymuno.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant i ddysgu’r ukulele, un o brif amcanion Iwcadwli yw cynnig cyfle amgen a chyfoes i ddysgwyr Cymraeg. Mae modd cwrdd a siaradwyr Cymraeg rhugl i sgwrsio a chael cyflwyniad i gerddoriaeth Cymraeg o bob math.

Tiwtor y cwrs fydd Steffan Rees sydd yn Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Cered, ac hefyd yn gitarydd a chwaraewr ukulele i’r bandiau Cymraeg lleol Bwca a Ffion Evans. Dywedodd, “Mae Iwcadwli wedi profi’n ffenomenon lleol. Mae yna strabs go iawn ymhlith ein aelodaeth ac rydyn ni’n cael cymaint o hwyl bob wythnos. Beth am wneud adduned Blwyddyn Newydd a dysgu’r ukulele gyda ni?”

Bydd y cwrs 8 wythnos yn cychwyn ar nos Fercher 8 Ionawr o 6:00y.h. tan 7:30y.h. yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Does dim rhaid dod â ukulele eich hun i’r wers gyntaf achos fydd yna rhai i fenthyg ac i gael blas ohono cyn mynd ati i brynu un. Pris y cwrs fydd £24.

Er mwyn cofrestru ar y cwrs ewch i Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau neu ffoniwch 01970 623 232. Am rhagor o wybodaeth cysylltwch gyda Cered ar cered@ceredigion.gov.uk neu 01545 572 350.

 

16/12/2019