Dathlodd Hafan Deg, cartref gofal yn Llanbedr Pont Steffan, Dydd Gŵyl Dewi trwy addurno’r cartref gyda chenhinen pedr, cael bwydlen draddodiadol Cymraeg i ginio, yn cynnwys cawl, a bara brith a phicau’r maen i ddilyn am de prynhawn.
Roedd trigolion yn croesawu ac yn mwynhau cwmni gwesteion, gan gynnwys plant a oedd wedi gwisgo mewn gwisg Gymreig draddodiadol fel rhan o'r dathliadau.
11/03/2019