Mae Chris Turner, sy’n 25 oed ac yn byw yn Aberystwyth, yn awtistig ac mae’n dioddef o ddiffyg hyder, sy’n cyfyngu ar ei gyfleoedd, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol. Gyda’u penderfyniad ei hun yn ogystal â chefnogaeth o RAY Ceredigion a Gweithffyrdd+, mae bywyd Chris wedi troi’n gadarnhaol a mae bellach yn chwilio am waith ym maes TG a gwaith warws.

Roedd bywyd yn anodd i Chris. Pan oedd Chris ar ei isaf, roedd yn ei chael hi’n anodd iawn gadael ei gartref, ni allai fynd mewn i siopau na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Cafodd Chris ei gyfeirio gan y Gwasanaethau Cymdeithasol at sylw Gweithffyrdd+, y gwasanaeth sy’n ymroi i helpu pobl i wella’u bywydau drwy wirfoddoli, hyfforddiant, profiad gwaith a chyflogaeth.

Neilltuodd tîm Gweithffyrdd+ Ceredigion fentor penodedig, sef Carly Evans, i weithio un i un gyda Chris. Cytunwyd i ffocysi ar gyfleoedd i adeiladu hyder a gwirfoddoli. Cysylltodd Carly â RAY Ceredigion, elusen benodol sy’n helpu oedolion ifanc rhwng 17 a 30 oed gydag anableddau.

Cynigiodd RAY Ceredigion le i Chris ar eu rhaglen 10 wythnos Dyma Ni, a ariannir gan Cynnal y Cardi. Mae cyfranogwyr Dyma Ni yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau, gan gynnwys tyfu ffrwythau a llysiau organig, gwaith saer, a choginio. Mae Dyma Ni yn helpu pobl i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol, yn unigol ac mewn grwpiau, gyda’r nod o ddatblygu sgiliau a chynyddu hyder.

Drwy gwblhau’r rhaglen 10 wythnos, mae Chris wedi ffynnu ac mae ei hyder wedi cynyddu. Llwyddodd Chris i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynychu Dyma Ni, datblygiad mawr a fydd yn ei helpu i gael gwaith amser llawn.

Mae Gweithffyrdd+ wrthi erbyn hyn yn helpu Chris i chwilio am swyddi. Mae Gweithffyrdd+ yn helpu Chris i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, i gynnal cyfweliadau ffug, datblygu ei CV a’i helpu i wneud cais am swyddi.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae'n wych gweld dau o wasanaethau Ceredigion yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i helpu pobl i ffynnu mewn bywyd. Mae Chris yn enghraifft wych o rywun sydd, er gwaethaf y rhwystrau i'w goresgyn, wedi croesawu cefnogaeth ac yn awr yn elwa'r manteision. Mae Gweithffyrdd+, a ddarperir yng Ngheredigion gan swyddogion o Gyngor Ceredigion, yn helpu pobl sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar i gymryd rheolaeth dros eu bywydau drwy hyfforddiant sgiliau a ariennir, gwirfoddoli, cymorth cyflogaeth a phrofiad gwaith. Mae ganddynt berthynas wych gyda chyflogwyr y sector preifat a mentrau cymdeithasol fel RAY Ceredigion. Os hoffech helpu i newid eich bywyd rwy'n eich annog i gysylltu â Gweithffyrdd+."

Mae Gweithffyrdd+ yng Ngheredigion yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Sir Ceredigion a chaiff ei staffio gan ei Swyddogion. Ariannir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae RAY Ceredigion yn chwilio am wirfoddolwyr i’w helpu i gyflenwi rhaglenni fel Dyma Ni. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.rayceredigion.org.uk.

Mae Gweithffyrdd+ ar gael yng Ngheredigion, Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Castell-nedd Port Talbot.

I gael gwybodaeth am sut y gall tîm Gweithffyrdd+ Ceredigion eich helpu chi, ffoniwch 01545 574193 neu ewch i http://www.workways.wales/?lang=cy-gb.

 

17/10/2019