Ar ddydd Mercher, 13 Chwefror, dathlodd cartref preswyl Min-y-Môr yn Aberaeron pen-blwydd un o’u preswylwyr, Mrs. May Barsby yn 105. Trefnodd y cartref barti i holl breswylwyr y cartref i ymuno â'r dathliadau.

Cyflwynodd y Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Hag Harrris, hamper i Mrs Barsby ar ran y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Harris, "Ar ran y Cyngor, hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Mrs Barsby yn 105, llwyddiant ysgubol, rwy'n siŵr y byddem i gyd yn hoffi gwybod ei chyfrinach o fyw’n hir! Da iawn i'r staff yn Min-y-Môr wrth roi cyfle i'r holl drigolion ddathlu'r achlysur nodedig hwn gyda'i gilydd. "

 

15/02/2019