Ar nos Fercher, 13 Tachwedd, cynhaliwyd rownd derfynol cystadleuaeth gwis newydd sbon ‘Ar Eich Marciau’ yng Nghlwb Rygbi Aberaeron gan Cered a Cheredigion Actif.

Roedd pedwar tîm wedi cyrraedd y rownd yma ar ôl serennu yn y rowndiau lleol. Wedi dros awr o ateb cwestiynau heriol, CPD Tregaron Turfs a ddaeth i’r brig gyda CPD Crannog yn ail a Chlwb Criced Aberystwyth yn drydydd. Derbyniodd y tîm buddugol darian parhaus i’w chadw am flwyddyn.

Cwis chwaraeon dwyieithog yw ‘Ar Eich Marciau’ gyda’r nod o hybu’r Gymraeg ymysg clybiau chwaraeon Ceredigion mewn ffordd hwyliog a chynhwysol. Bu’r gystadleuaeth yn gyfle prin i dynnu clybiau o wahanol gampau at ei gilydd i gymdeithasu a chael eu hysbrydoli i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu gweithgareddau.

Dywed Non Davies, Rheolwr Cered, “Mae cwis ‘Ar Eich Marciau’ wedi bod yn gyfle i ni weithio gyda unigolion a chlybiau ar draws y sir i hybu’r Gymraeg ym maes Chwaraeon. Mae Ceredigion yn frith o glybiau Chwaraeon o bob math ac mae wedi bod yn hwyl i ddod a’r rhain at ei gilydd nid yn unig i gystadlu ond hefyd i gymdeithasu. Trwy gynnal y cwis yn ddwyieithog bu cyfle i ni ddangos sut gall y Gymraeg fod yn rhan naturiol o weithgareddau’r clybiau beth bynnag fo iaith yr aelodau. Llongyfarchiadau i bawb fu’n cymryd rhan ac yn enwedig i bencampwyr 2019 – Tregaron Turfs!”  

Y gobaith yw cynnal y gystadleuaeth yn flynyddol gan annog mwy o glybiau i ymuno yn yr hwyl yn 2020.

Yn y llun, enillwyr ‘Ar eich Marciau’, CPD Tregaron Turfs.

20/11/2019