Mae Sheila Herbert yn Weinyddwr Bathodynnau Glas yng Nghyngor Sir Ceredigion. Mae hi’n gweithio’n galed i sicrhau bod trigolion cymwys yng Ngheredigion cael eu consesiwn parcio i helpu gwneud eu bywydau ychydig yn fwy hwylus. Yn adlewyrchu ar ei gwaith, mae Sheila yn rhoi trosolwg ar ei rôl a gwybodaeth allweddol ar y cynllun Bathodyn Glas.

“Pan mae pobl yn gwneud cais am Fathodyn Glas, dw i’n gwirio eu holl manylion ac yn asesu os ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun ai peidio.

Mae cynllun y Bathodyn Glas yn gonsesiwn parcio i bobl anabl, pobl sydd ag anawsterau cerdded difrifol neu bobl sydd â nam gwybyddol difrifol. Mae’r cynllun ar gael i yrwyr a theithwyr, a’r bwriad yw bod y person y rhoddir bathodyn iddo yn gallu parcio'n agosach at eu cyrchfan. Mae hefyd yn golygu cael y mymryn bach o le ychwanegol o amgylch eu cerbyd pan fyddant yn parcio mewn cilfach barcio i'r anabl – yn gwbl angenrheidiol os ydych yn gaeth i gadair olwyn a bod angen i chi ystyried mynd â'ch cadair allan o'r car a chael lle i drosglwyddo o'r car i'r gadair.

Oeddech chi'n gwybod y gallwch hefyd wneud cais am fathodyn os ydych chi'n gofalu am blentyn sydd â chyflwr iechyd sy'n effeithio ar eu symudedd?

Mae'n fy ngwneud i'n anhapus pan glywaf straeon am ddeiliaid Bathodyn Glas yn cael eu herio neu eu holi am eu hawl. Mae gan bawb sydd ag un rheswm dilys- nid yw pob anabledd yn weladwy.

Yng Nghymru, nid ydym yn codi tâl am fathodynnau glas; mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ariannu'r rhain.

Yng Ngheredigion, yn yr un modd â’r DU gyfan, mae’r meini prawf cymhwysedd wedi'u rhannu i’r ddau grŵp canlynol:

1. Pobl sydd â hawl awtomatig i fathodyn heb unrhyw asesiad pellach - fel arfer oherwydd eu bod eisoes yn derbyn rhai budd-daliadau gwladol neu wedi'u cofrestru'n ddall.

2. Pobl sydd â hawl i gael bathodyn ar ôl asesiad pellach - fel arfer nid yw pobl yn y grŵp hwn yn derbyn unrhyw fudd-dal gwladol. Dyma ble y gallwch egluro wrthym pam na allwch gerdded, beth yw eich cyflwr meddygol, neu unrhyw beth sy'n effeithio ar eich gallu i symud. Gallai hefyd fod yn gyflwr sy'n gysylltiedig â'r galon neu'n fater gwybyddol. Fodd bynnag, gydag unrhyw achos sy'n perthyn i'r grŵp hwn, bydd angen i unigolion ddarparu tystiolaeth o'u cyflwr a sut mae'r cyflwr yn effeithio ar eu symudedd.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi hawl i gael Bathodyn Glas, byddwn yn eich asesu, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich gwrthod yn y gorffennol - rydym yn edrych ar bob achos unigol yn fanwl iawn.

Os ydych chi ar fin cael llawdriniaeth neu wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar, neu os oes disgwyl i chi gymryd peth amser i wella o salwch tymor byr, efallai y byddwch yn gymwys i gael Bathodyn Glas tymor byr. Byddai angen i ymgynghorydd ddarparu cadarnhad ysgrifenedig eich bod ar restr aros a’i bod yn mynd i gymryd amser i chi wella, neu bydd angen profi eich bod wedi cael llawdriniaeth.

Yn y cyngor, gallwn ni gynnig cymorth i bobl lenwi'r ffurflenni cais. Mae ein Tîm Porth y Gymuned, sy'n cynnwys pedwar Cysylltwr Cymunedol - yn cynorthwyo unigolion a'u teuluoedd i gael cyngor a chymorth. Gallant ddod i'ch cartref i helpu gyda'r ffurflenni. Mae Age Cymru a Tai Wales & West hefyd yn sefydliadau y gallwch fynd atynt am gymorth i lenwi'r ffurflenni.

Gallwch osgoi gwario arian ar bostio - gall ymgeiswyr ymweld â swyddfeydd y cyngor i lungopïo eu dogfennau neu ddychwelyd ffurflenni wedi'u cwblhau.

Gallwch hyd yn oed osgoi'r gost a'r drafferth o orfod trefnu llun pasbort ar gyfer eich Bathodyn Glas oherwydd gallwn ni tynnu eich llun am ddim yng Nghanolfan Rheidol neu Swyddfeydd y Cyngor yn Aberaeron, Aberteifi a Llambed. Neu gallwch anfon eich llun drwy anfon e-bost.

Yn anffodus, mae llawer o gamddealltwriaeth ynghylch cynllun y Bathodyn Glas o hyd, fy nod yma fu darparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o'r meini prawf cymhwysedd - efallai bod rhywun yn darllen hon nawr heb fod yn ymwybodol y gallent fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas - a gallai wir wneud newid cadarnhaol i'w bywyd o ddydd i ddydd. Os mae hyn yn wir amdano chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.”

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein drwy wefan y cyngor, neu trwy ffonio’r Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid y cyngor ar 01545 570 881. Ni fydd nodiadau atgoffa'n cael eu hanfon rhagor i roi gwybod i ddeiliaid Bathodyn Glas bod eu bathodyn yn dod i ben felly dylech bob amser gadw golwg ar y dyddiad terfyn a rhoi digon o amser i chi ei adnewyddu drwy lenwi ffurflen gais newydd.

07/05/2019