Ar ddydd Sul 11 Awst 2019, cynhelir Gŵyl Fwyd Môr i’r Tir ar bromenâd Aberystwyth. Bydd yr Ŵyl fwyd yn cael ei agor yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Peter Davies MBE.

Bydd ystod o stondinau yn cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch lleol o safon, gyda nifer o stondinau yn gwerthu deunyddiau ar wahân i fwyd. Yn ogystal â stondinau fwyd a chelf a chrefft bydd ystod eang o weithgareddau ar gyfer y teulu i gyd.

Bydd cyfle i blant fynd i go-cartio, cael hwyl a sbri ar y trampolinau, paentio wynebau ac amrywiaeth o weithgareddau eraill.

Fe fydd cynrychiolwyr o Fforwm Cymunedol Penparcau a Clwb Rotari Aberystwyth yn bresennol, yn ogystal â Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyngor Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chynrychiolwyr o'r tîm Arfordir a Chefn Gwlad o fewn y Cyngor.

Bydd y Cogydd sydd wedi ennill seren Michelin, Gareth Ward o Ynys Hir Restaurant & Rooms wrthi yn arddangos rhai o’i brydiau blasus, yn ogystal â Mandy Walters yn dangos beth i’w wneud â chregynbysgod ffres a Padrig Jones o Gwesty Cymru.

Cynhelir yr Ŵyl fwyd am 10yb tan 5yp ac mae mynediad am ddim i bawb i'w fwynhau. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Alison Kinsey ar 01545 574162.

 

01/08/2019