Bob blwyddyn fel rhan o'u menter, ‘Start from the Heart’, mae depo Calor Gas ar Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon yn rhoi diwrnod o’u hamser i wirfoddoli yn y gymuned. Eleni, fe wirfoddolodd gweithwyr Calor Gas - Matthew Davis, Kevin Sargent a Martin Atkinson eu hamser yng Nghartref Preswyl, Bryntirion yn Nhregaron.

Gweithiodd y tri yn y gerddi a gyda’r offer garddio, a symudwyd sawl darn o ddodrefn trwm i leoedd mwy addas yn y cartref.

Mae'r fenter ‘Start from the Heart’ yn brosiect ledled y wlad y mae'r cwmni yn ei hyrwyddo ym mhob un o'i depos. Mae’r fenter yn ceisio bod o fudd i gymunedau a sefydliadau fel Bryntirion.

Dywedodd Jennifer Daniels, Rheolwr Cartref Gofal Preswyl Bryntirion, “Fe hoffwn i, y staff a'r preswylwyr ym Mryntirion fynegi ein diolch i Calor Gas am ganiatáu i dri aelod o staff ddod i wella ein gardd. O fewn ychydig oriau roedd yr ardd yn edrych gymaint yn well ac er bod cryn dipyn o waith i'w wneud, roeddent yn rhoi blaenoriaeth i glirio'r llwybrau i gyd a thorri'r dail yn ôl i alluogi ein preswylwyr i symud o amgylch yr ardd yn ddiogel.”

Dywedodd Kevin Sargent, Arweinydd Safle Aberystwyth, Calor Gas, "Mae Calor Gas yn falch o gefnogi cymunedau lleol trwy ein rhaglen gwirfoddoli. Rydym yn falch iawn bod ein cydweithwyr yn Aberystwyth wedi dewis cefnogi Cartref Preswyl Bryntirion ac rydym yn edrych ymlaen at weld y berthynas hon yn datblygu dros y blynyddoedd."

05/09/2019