Ar ddydd Gwener 21 Mehefin, cynhaliwyd seremoni gwobrwyo flynyddol cyntaf Prosiect Cynnydd a Chwricwlwm Amgen Cyngor Sir Ceredigion yng Nghwrtnewydd.

Roedd y dathliad yn cydnabod cyflawniadau disgyblion blwyddyn 11 ar draws y sir sydd wedi derbyn cefnogaeth trwy’r Prosiect Cynnydd a Darpariaeth Cwricwlwm Amgen.

Mae’r prosiect Cynnydd wedi helpu pobl ifanc hyn sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg trwy ddarparu ymyriadau dwys i wella eu presenoldeb yn yr ysgol, yn ogystal â’u cyrhaeddiad ac ymddygiad. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys mentora, hyfforddi a chyrsiau i gynyddu sgiliau cyflogaeth a bywyd i helpu i wella addysg a rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Gwych oedd cael bod yn rhan o’r digwyddiad llwyddiannus yma i ddathlu cyflawniadau gymaint o bobl ifanc. Mae’r Cwricwlwm Amgen yn elfen bwysig iawn o fewn y sir ac yn rhoi cyfleoedd anhygoel i’r disgyblion.

Mae’r prosiect Cynnydd wedi galluogi nifer fawr o ddisgyblion i ennill nifer o gymwysterau ychwanegol gyda’r mwyafrif o rain yn gymwysterau lefel 2. Mae’n ffantastig clywed nifer o storiâu llwyddiannus gyda nifer o’r bobl ifanc eisoes wedi eu derbyn mewn colegau yn barod ar gyfer mis Medi.”

Dywedodd Michelle Davies, Cydlynydd Prosiect Cynnydd, Cyngor Sir Ceredigion, “Roedd yn bleser gweld cymaint o ddisgyblion yn mwynhau'r dathliadau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a ddarparwyd gan Hyfforddiant Ceredigion Training. Eleni mae'r prosiect Cynnydd, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, wedi galluogi 119 o ddisgyblion blwyddyn 11 i dderbyn cymwysterau cydnabyddedig am eu gwaith caled.

Hoffwn ddiolch i weithwyr Cynnydd o bob un o'r ysgolion uwchradd yn ogystal â staff Gyrfa Cymru am eu hymroddiad i gefnogi ein pobl ifanc bregus.”

Rhoddir diolch arbennig i fusnesau lleol a ddarparodd fwyd, diod a gemau ar gyfer y seremoni wobrwyo.

Am ragor o wybodaeth am waith Prosiect Cynnydd, cysylltwch drwy ffonio 01970 633 647 neu e-bostio alternativecurriculum@ceredigion.gov.uk.

27/06/2019