Cododd Clwb Ieuenctid Aberaeron, o dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion £350 drwy werthu crefftau Nadolig a grëwyd gan bobl ifanc yn Ffair Nadolig Aberaeron ar 30 Tachwedd 2019.

Fe dderbyniodd Clwb Ieuenctid Aberaeron grant cymunedol gan CAVO Ceredigion. Fe wnaeth hyn alluogi pobl ifanc i greu a chynhyrchu eu cardiau Nadolig eu hunain i'w gwerthu, gyda chymorth artist lleol Rhiannon Roberts.

Dywedodd Cynghorydd Aberaeron Elizabeth Evans, “Roedd Pwyllgor y Sefydliad wrth eu bodd bod aelodau Clwb Ieuenctid Aberaeron wedi cael stondin yn ein Ffair Nadolig poblogaidd eleni. Maent yn rhan fawr o’n cymuned ac rydym yn ddiolchgar am yr egni a’r brwdfrydedd a ddaethant i’r digwyddiad Nadolig a oedd yn hynod lwyddiannus.”

Yn ogystal â Ffair Nadolig Aberaeron, mae Clwb Ieuenctid Aberaeron wedi bod yn canu carolau o amgylch y dref leol i gasglu arian tuag at yr elusen.

Dywedodd Sion Henson, un o Aelodau’r Clwb Ieuenctid, “Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn y digwyddiad cymunedol yn fawr, a hoffwn wneud rhywbeth fel hyn eto y flwyddyn nesaf.”

Bydd yr holl elw a godir yn cael ei roi i elusen ddewisol y flwyddyn y Clwb Ieuenctid, sef Ymgyrch Bad Achub Ceredigion.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Dywedodd, “Llongyfarchiadau gwresog i aelodau Clwb Ieuenctid Aberaeron am eu mentergarwch ac am weithio mor galed i ddatblygu gweithgareddau a chysylltiadau gyda’u cymuned.”

I gael mwy o wybodaeth neu i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i dudalennau Facebook, Instagram a Twitter Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion @GICeredigionYS neu cysylltwch â'r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

Yn y llun mae Mari Harcombe, Pheobe Thomas, Sion Henson a Scarlett Walker (Zac Evans, ddim yn bresenol yn y llun) yn Ffair Nadolig Aberaeron. 

19/12/2019