Mae gan unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau yng Ngheredigion dal amser eleni i gyflwyno syniadau arloesol i gefnogi eu cymunedau gwledig lleol, i Gynnal y Cardi erbyn dydd Llun, 11 Tachwedd.

Mae cefnogaeth ar gael i gynlluniau sy’n cwympo o dan unrhyw rai o bum thema Cynnal y Cardi o dan y cynllun LEADER. Mae’r cynllun yn cefnogi syniadau prosiect arloesol a arweinir gan y gymuned sy’n adeiladu ar gryfderau ac asedau Ceredigion. Mae cynnal y Cardi yn cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae helpu'r amgylchedd a lleihau costau byw bob dydd neu ddarparu gwell mynediad at wasanaethau lleol trwy ddefnyddio technoleg ddigidol yn rai o’r syniadau y gellid eu harchwilio a'u cefnogi.

Mae Cynnal y Cardi yn edrych yn benodol am syniadau sy'n ymwneud â'r themâu LEADER canlynol; hwyluso gweithgaredd cyn-fasnachol a phartneriaethau a rhwydweithiau busnes newydd; archwilio cyfleoedd ynni adnewyddadwy; a gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol.

Cefnogir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig, trwy Raglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio, “Rydyn ni’n ffodus yng Ngheredigion. Nid oes yn rhaid i ni edrych yn bell i weld bod gan ein sir asedau naturiol rhagorol. Mae Ceredigion yn llawn botensial ac rydym yn chwilio am syniadau arloesol gan bobl sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cymunedau gwledig. Nid yn unig y gallem fod yn cryfhau ein heconomi, yn arbed arian ac yn amddiffyn ein hamgylchedd, ond bydd ein cymunedau gwledig yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Geredigion fod yn fwy rhagweithiol a hydwyth.”

Dyma'r cyfle olaf yn 2019 i gyflwyno syniadau. I drafod eich syniadau ac i gael gwybodaeth ynghylch cymhwysedd cefnogaeth, ffoniwch dîm Cynnal y Cardi ar 01545 572063 neu e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk. Mae croeso i bob syniad gael ei gyflwyno yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

22/10/2019