Trefnodd Cered: Menter Iaith Ceredigion noson arbennig yn ddiweddar gyda Cubs Llandysul pan ddaeth Ynni Da i ymweld â’r Cubs i wneud sesiwn pŵer pedal drwy’r iaith Gymraeg.

Darparwyd y sesiwn gan Ynni Da, sef sefydliad sy'n darparu gweithdai ynni a chyfleoedd i wella sgiliau rhifedd a data pobl ifanc. Bu rhaid i’r Cubs greu trydan trwy pedlo beiciau, a chynhyrchu’r ynni i ddarparu cerddoriaeth pop a roc ar gyfer y sesiwn. Roedd pawb wedi mwynhau gyda nifer yn ymuno â’r canu yn enwedig pan chwaraewyd caneuon fel ‘Loris Mansel Davies’ gan The Welsh Whisperer a ‘Rhedeg i Baris’ gan Candelas.

Pwrpas trefnu’r gweithgareddau hyn yw rhoi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r sesiynnau yn addysgu pobl am sut y cynhyrchir egni, yn rhoi’r cyfle i arbrofi gydag adnoddau egni adnewyddadwy, ac i gadw’n heini.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, “Dyma’r ail dro i ni gynnal gweithdy gyda Cubs Llandysul. Ar ôl trefnu noson gyda’r digrifwr Noel James o Britain’s Got Talent, roedd yr ymateb mor wych, penderfynwyd trefnu gweithgaredd arall sef sesiwn pŵer pedal drwy’r iaith Gymraeg gydag Ynni Da. Hoffwn ddiolch i arweinwyr Cubs Llandysul am gydweithio gydag Ynni Da fel bod eu haelodau yn cael y cyfle i gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg”

Yn ôl Alix Bryant, Arweinydd Cubs Llandysul, “Cafodd y Cubs amser ffantastig yn y sesiwn pŵer pedal. Roedd y gerddoriaeth Gymreig yn wych ac roedd y beiciau’n sicr wedi defnyddio eu hegni!”

Am fwy o fanylion ynglŷn â digwyddiadau Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i’w gwefan, cered.cymru neu dudalen Facebook, @ceredmenteriaith, neu cysylltwch drwy ffonio 01545 572 358.

30/04/2019