Dros yr wythnosau nesaf bydd cyfle i gerddorion o ardal Aberteifi ddod at ei gilydd i greu band cymunedol newydd sbon. P’un ai bod yn gerddorion profiadol neu’n rhywun oedd yn arfer chwarae yng ngherddorfa neu fand yr ysgol flynyddoedd yn ôl, mae croeso cynnes i bawb ymuno â ‘Band y Fari’.

Er mai Aberteifi yw ail dref fwyaf Ceredigion mae na brinder cyfleoedd i gerddorion ddod at ei gilydd mewn ffordd gynhwysol sydd yn pontio’r cenedlaethau. Mae Aberteifi yn dref hynod o fywiog gyda chalendr o ddigwyddiadau prysur dros ben - digwyddiadau y byddai band cymunedol yn medru cyfrannu atynt ac ychwanegu at y cyfoeth o ddiwylliant sydd yn bodoli yn y dref.

Y garreg filltir gyntaf i brosiect Band y Fari yw creu band i chwarae cerddoriaeth werinol Gymreig mewn digwyddiad gyda’r Fari Lwyd ym mis Ionawr. Yna ym mis Mawrth y gobaith yw perfformio unwaith eto ym Mharêd Gŵyl Dewi Aberteifi a gyda lwc mewn mwy o ddigwyddiadau mawrion y dref yn hwyrach yn y flwyddyn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cered wedi profi cryn lwyddiant gyda phrosiectau sydd yn hybu’r Gymraeg trwy gerddoriaeth. Mae’r prosiectau yma wedi gweld y fenter yn lansio cerddorfa ukulele ‘Iwcadwli’ yn Aberystwyth a chynnal gweithdai ukulele poblogaidd ar draws Ceredigion yn ogystal â mentora bandiau roc ifanc ar gyfer perfformio yng Ngŵyl Aber a Gŵyl Nôl a Mlân.

Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered sydd wedi bod yn gyfrifol am y prosiectau yma a fe fydd yn arwain y band newydd. Dywed Steffan, “O brofiad, mae cerddoriaeth yn tynnu pobl at ei gilydd fel dim byd arall a fy ngobaith yw y bydd pob math o bobl yn tyrru i fod yn rhan o Fand y Fari gan nad oes dim byd tebyg i’w gael yn yr ardal. Dwi’n edrych ymlaen i weld pa fath o offerynwyr sydd i’w cael yn yr ardal a chael lot o hwyl gyda nhw dros y misoedd nesaf yn paratoi set llawn ffefrynnau Cymraeg.”

Bydd ymarfer cyntaf y band yn cael ei gynnal nos Fawrth 17 Rhagfyr o 6.00 tan 8.00 y.h. yn Y Man a’r Lle, ar Gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi. Felly, dewch â’ch offeryn ac unrhyw gerddoriaeth gwerinol a fyddai’n ddefnyddiol. Bydd yr ymarferion yn ddwyieithog ac yn ysgafn eu naws felly mae croeso i bawb.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Cered ar cered@ceredigion.gov.uk neu 01545 572 350.

06/12/2019