Ar ddydd Mercher 26 Mehefin, bu i Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Peter Davies MBE ail-agor y lanfa bren yn ffurfiol ar bromenâd Aberystwyth.

Mae'r lanfa, sy'n fan poblogaidd i bysgotwyr a nofwyr, wedi bod ar gau ar gyfer defnydd cychod hyd at 3 blynedd gan fod niwed i lyngyr y môr wedi gwanhau ei strwythur sydd wedi gwneud gweithgareddau cychod yn anniogel.

Oherwydd chyfraniad gwerthfawr o £72k o'r Gronfa Cymunedau Arfordirol, mae'r lanfa bren wedi cael ei adnewyddu gan y cyngor fel bod cychod yn gallu defnyddio'r cyfleuster i fynd a thwristiaid a thrigolion am dripiau byr o gwmpas y bae unwaith eto.

Mae'r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i'r economi leol, a phan fydd cyfleoedd yn cyflwyno'u hunain i wella amodau i fusnesau twristiaeth ffynnu, mae'r cyngor yn awyddus i gydio ynddynt.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Peter Davies MBE yn ystod yr agoriad ffurfiol, “Mae’n bleser gallu bod yma heddiw i ail-agor y lanfa bren mewn amser perffaith ar gyfer yr haf hwn. Rwy’n annog perchnogion cychod i ddod ymlaen a chysylltu gyda’r harbwrfeistr er mwyn gallu bod yn rhan o’r prosiect cyffrous hyn.”

Dywedodd Rachel Richards, Swyddog Cyllid, Gronfa Cymunedau Arfordirol, “Rydym yn falch iawn o allu lansio'r prosiect gwych hwn sy'n cael ei ariannu drwy'r Gronfa Cymunedau Arfordirol. Mae'n wych gweld prosiect arloesol yn gwneud gwahaniaeth i'r economi leol ac rydyn ni'n falch o'i gefnogi.”

Dim ond un o’r nifer o brosiectau arloesol fydd yn cael eu datblygu ar hyd promenâd Aberystwyth y pedair i bum mlynedd nesaf. Amlygodd yr ymgynghoriadau Amddiffyn yr Arfordir a gynhaliwyd yn gynharach eleni sawl syniad ar gyfer datblygu’r economi ac mae'r cyngor, ynghyd â'i bartneriaid, yn gweithio i wireddu hyn.

Os oes gan unrhyw berchenogion cychod masnachol ddiddordeb i weithredu gwasanaethau cychod o’r lanfa bren, cysylltwch â’r harbwrfeistr ar Peter.Norrington-Davies@ceredigion.gov.uk neu 01970 611433 am fwy o fanylion.

27/06/2019