Beth yw Cynllunio ar gyfer Argyfwng?

O bryd i'w gilydd mae digwyddiadau, p'un ai yr achosir hwynt gan bobl neu gan natur, yn digwydd. Medrant fod yn fach neu'n fawr - trychineb trafnidiaeth, digwyddiad mewn ffatri gemegau, llifogydd ar hyd yr arfordir neu ymosodiad gan derfysgwyr; ac wrth gwrs, yr annisgwyl.

Nod Uned Diogelwch Cymunedol ac Argyfyngau Sifil Cyngor Sir Ceredigion yw asesu'r bygythiadau a'r risgiau i Geredigion, a chynllunio ar gyfer ymateb ac adferiad pe bai rhywbeth yn digwydd. Y nod yn y pen draw yw lleihau effaith unrhyw drychineb ar fywydau beunyddiol pobl ac ar yr amgylchedd, a helpu pethau i ddychwelyd i normal.

Mae'r Uned Diogelwch Cymunedol ac Argyfyngau Sifil, drwy weithio ag ystod eang o asiantaethau eraill, yn paratoi cynlluniau argyfwng ac yn trefnu digwyddiadau ac ymarferion hyfforddi ar gyfer digwyddiadau difrifol er mwyn bod yn barod am unrhyw argyfwng - rhag ofn. Beth bynnag y bo'r digwyddiad, rôl y Cyngor Sir bob amser yw darparu cymorth a gofal i'r gymuned, a sicrhau bod pethau'n dychwelyd i normal cyn gynted â phosibl.

Yn ogystal â darparu'r gwasanaeth hwn i bobl Ceredigion, mae'n ddyletswydd hefyd ar bob Awdurdod i fod â chynlluniau yn eu lle i sicrhau y bydd yn goroesi fel sefydliad - naill ai yn sgîl trychineb mewnol, neu effeithiau un allanol - fel y fall barhau i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y cyhoedd. O dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil, rhaid i Gyngor Sir Ceredigion fod â chynlluniau yn eu lle i sicrhau y gall barhau i gyflawni ei swyddogaethau, cyn belled ag y bo'n ynarferol rhesymol, mewn argyfwng.

Cynllunio ar gyfer Argyfwng ac Argyfyngau Sifil Posibl

Daeth Deddf Argyfyngau Sifil 2004 i run ar 14 Tachwedd 2004, gan ddarparu un fframwaith cynhwysfawr ar gyfer amddiffyn sifil yn y Deyrnas Unedig ar mwyn gallu cwrdd â sialensau'r 21ain ganrif.

Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau amddiffyn sifil ar gyrff, dyletswyddau sydd wrth graidd eu trefniadau cynllunio ac ymateb mewn argyfwng, ac yn rhannu ymatebwyr "Categori 1" sydd wrth wraidd yr ymateb mewn argyfwng yw: Awdurdodau Lleol, y Gwasanaethau Brys, Cyrff Iechyd ac Asiantaethau'r Llywodraeth.

Y cyrff "Categori 2" yw'r "cyrff cydweithredu" a fydd, er yn llai tebyygol o fod wrth wraidd y gwaith cynllunio, â rôl sylweddol i'w chwarae mewn digwyddiadau sy'n effeithio ar eu sector: ee Cyfleustodau, Trafnidiaeth a rhai Cyrff Iechyd ac Asiantaethau'r Llwyodraeth.

Gellir cael gwybodaeth bellach ynglyn â'r hyn a olygir yn nhermau cyffredinol yn