Nid oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i atal tywydd garw, ond gallwn ni / chi fod yn barod ar ei gyfer.

Ar adegau gall Ceredigion brofi'r tywydd canlynol:

  • Stormydd a gwyntoedd cryfion - difrod i adeiladau a choed, risg i gerbydau uchel a thraffig eraill, damweinia rhwng cerbydau, y gwasanaethau ffôn a chyfleustodau yn torri lawr
  • Eira trwm - methu pasio ar hyd y ffyrdd a'r strydoedd, mae'n cymryd mwy o amser i gyrraedd rhywle, amharu ar ddosbarthu gwasanaethau a chyflenwadau hanfodol, cerbydau'n cael eu gadael, damweiniau rhwng cerbydau, y gwasanaethau ffôn a chyfleustodau yn torri lawr
  • Glaw trwm - llifogydd, amodau gyrru peryglus, hyrddiau pŵer
  • Niwl - mae'n cymryd mwy o amser i gyrraedd rhywle, damweiniau rhwng cerbydau
  • Tymereddau isel, rhew - ffyrdd a phalmentydd peryglus, damweiniau rhwng cerbydau, y gwasanaethau ffôn a chyfleustodau yn torri lawr, mwy o risk i bobl fregus.

Ar adegau o dywydd garw, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud ei orau i liniaru'r sefyllfa. Er enghraifft:

  • Rhoi cyngor a gwybodaeth
  • Graeanu, gwasgaru halen a chlirio eira
  • Ymateb i lifogydd
  • Delio ag adeiladau peryglus
  • Agor canolfannau gorffwys lle bo angen
  • Parhau i ddarparu gwasanaethau gofal yn y cartref
  • Cau ysgolion lle bo angen
  • Archwilio a chlirio draeniau a chwlfertau; a
  • Parhau i ddarparu, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl, ei wasanaethau rheolaidd.

Fodd bynnag, y rhagofalon a'r camau y gall unigolion a chymunedau eu cymryd, cyn ac yn ystod tywydd garw, fydd yn cael yr effaith fwyad ar sut mae unigolion a chymunedau'n ymdopi â thywydd o'r fath, a pha more ddrwg y bydd yn effeithio arnynt. Dyma enghreifftiau o ragofalon@

  • Cadw eich eiddo mewn cyflwr da, wedi'i insleiddio a'i lagio'n ddigonol
  • Cadw draeniau a gylïau yn glir o ddail a phethau eraill a allai eu blocio
  • Sicrhau bod gennych bolisïau yswiriant digonol
  • Cadw llygad rheolaidd ar ragolygon a rhybuddion y tywydd
  • Cadw negesau sylfaenol yn y tŷ, gan gynnwys fflachlamp ayb
  • Lle bo hynny'n bosibl, osgoi mynd yn y car neu gerbyd arall pan fydd cyflwr y ffyrdd yn berygl bywyd
  • Bod yn "gymdogion da" a galw heibio pobl fregus yn y gymdogaeth
  • Sicrhau bod gennych ddigon a unrhyw feddyginiaeth presgripsiwn
  • Defnyddio "synnwyr cyffredin".