Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 31/08/2023

Fe wnaeth yr ymgynghoriad hyn bwydo fewn i’r Adroddiad Hunanasesu Cyngor Sir Ceredigion 2022/23. Cafodd yr Adroddiad Hunanasesu Cyngor Sir Ceredigion 2022/23 ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cyngor ar 14/12/2023.

Adroddiad Hunanasesu Cyngor Sir Ceredigion 2022/23

PENDERFYNWYD:

  1. Cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu 2022/23 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol o’r Amcanion Perfformiad a Llesiant, a
  2. Bod y Cyngor yn cymeradwyo i’r Amcanion Llesiant Corfforaethol aros yr un peth am y flwyddyn nesaf.

Mae'r adroddiad Hunanasesiad bellach wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan

Adroddiad Hunanasesiad 2022- 2023

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Hoffem ofyn i chi beth yw eich barn am ba mor dda yr ydym yn rhedeg gwasanaethau'r cyngor ar gyfer pobl Ceredigion.

Rydym yn adolygu ein perfformiad yn barhaus. Bob blwyddyn rydym yn adrodd yn ôl ar y canlyniadau ar sut rydym wedi perfformio ac yn cynnwys cynllun gweithredu yn nodi sut y byddwn yn gwella. Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Hunanasesu cyntaf yn ddiweddar, ac mae’n manylu ein perfformiad yn 2021/2022 ar draws holl wasanaethau'r cyngor

Mae'r tabl isod yn crynhoi ein gwasanaethau Cyngor:

Addysg Cynnal a Chadw Priffyrdd a Phriffyrdd Gwasanaethau Cymdeithasol Safonau'r Gymraeg
Diwylliant Rheoli Gwastraff Diogelu Gwasanaethau Etholiadol
Gwasanaethau Cynllunio Cynnal a Chadw Tiroedd Camddefnyddio Sylweddau Caffaeliadau a Thaliadau
Twf a Menter Gwasanaethau Parcio Galluoedd Meddyliol Cymorth Budd-daliadau, Grantiau ac Asesu
Twristiaeth Harbyrau Cymorth Estynedig Canolfannau Lles
Cadwraeth Cynnal a Chadw Gaeaf Gofal a Chymorth wedi'u Targedu Uned Cyfeirio Disgyblion
Mynediad i Gefn Gwlad Ymateb i Argyfwng Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol Dysgu a Sgiliau Galwedigaethol
Canolfan Bwyd Cymru Llifogydd ac Erydu Arfordirol Gwasanaethau Maethu Gwaith Ieuenctid Cymunedol
Cefnogi Busnesau drwy Grantiau Trafnidiaeth Gyhoeddus / Cludiant i Ddysgwyr Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd Rhiant a Chymorth i Deuluoedd
Ymdrin â Chwynion Gwasanaethau i Gwsmeriaid Tai Gofalwyr a Chymorth Gymunedol
Diogelu'r Cyhoedd Cofnodion ac Archifau Modren Gofal wedi'i Gynllunio Cyflogaeth a Hyfforddiant
Partneriaethau ac Argyfyngau Sifil Posibl Cofrestru Sifil Gwasanaethau Cyfreithiol Gweithgarwch Corfforol a Chwarae
Adsefydlu Ffoaduriaid Llyfrgelloedd Gwasanaeth Cwsmeriaid Adnoddau Dynol a Datblygu Staff

Ein “Hamcanion Llesiant Corfforaethol” yw ein meysydd blaenoriaethol ar gyfer gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Ceredigion. Yn y meysydd hyn y byddwn yn buddsoddi ein hadnoddau. Cawsant eu nodi drwy ddadansoddi tystiolaeth helaeth gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus.

Rydym yn monitro’n barhaus ar draws ystod o fesurau perfformiad sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol. Rydym yn cyhoeddi canlyniadau drwy gydol y flwyddyn ariannol sy'n cael eu hadolygu bob chwarter gan ein Bwrdd Perfformiad. Mae’r canlyniadau diweddaraf, dogfen Canlyniadau Mesur Perfformiad 2022/2023, yn rhoi cipolwg i chi o’n perfformiad ar draws gwasanaethau’r cyngor ers mis Ebrill 2022. Mae ein mesurau newydd yr ydym yn bwriadu cychwyn monitro yn ystod 2023/2024 i’w gweld yn ein dogfen Mesur Perfformiad ar gyfer 2023/2024. Byddai’n dda pe baech yn eu darllen cyn cynnal yr arolwg.

Dyma ein harolwg blynyddol cyntaf i gael eich barn am ba mor dda yr ydym yn gwneud yn gyffredinol. Mae eich barn yn bwysig i ni. A fyddech cystal â threulio ychydig funudau i roi eich barn i ni. Bydd eich ymateb yn ddienw.

Os ydych chi’n dymuno i ni anfon copi papur atoch chi drwy’r post neu os hoffwch gael copi o’r ffurflen mewn fformat arall, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.