Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd yn arwyddo cytundeb ar gyfer darparu staff Ysbyty Bronglais

O 13 Mai 2024, bydd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio rhan o Ganolfan Rheidol, swyddfa’r Cyngor yn Aberystwyth.

Yn dilyn gweithredu Strategaeth Gweithio Hybrid a Pholisi Hybrid Cyngor Sir Ceredigion, mae cyfleoedd sylweddol i ad-drefnu a gwneud gwell defnydd o ofod swyddfa’r Cyngor i hwyluso gwasanaethau cyhoeddus eraill drwy weithio gyda sefydliadau partner.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Trwy addasu’r ffordd yr ydym yn gweithio, gallwn alluogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau modern a fydd yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Ceredigion, sy'n atgyfnerthu ein blaenoriaethau fel y nodir yn ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-2027. Rydym yn falch o allu gweithio gyda’n partneriaid yn Hywel Dda, gan ddarparu swyddfeydd i’w staff a fydd yn galluogi’r Bwrdd Iechyd i fuddsoddi a datblygu cyfleusterau newydd yn Ysbyty Bronglais. Yn ogystal, mae'r penderfyniad hwn yn wych i economi Ceredigion, gan ei fod yn darparu llif incwm cyson ar gyfer y lleoedd gwag yn y swyddfeydd.”

Dywedodd Matthew Willis, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty Bronglais Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o allu ymestyn ein trefniadau partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion i ddefnyddio’r gofod sydd ar gael yng Nghanolfan Rheidol i ddarparu llety i staff y Bwrdd Iechyd sydd wedi’u lleoli ar hyn o bryd, ym Mronglais, ond nad yw eu rolau yn dibynnu ar fod yn yr Ysbyty.

“Bydd swyddfeydd modern o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar gyfer staff sy’n symud i Ganolfan Rheidol, a bydd y gofod a ryddheir ym Mronglais yn galluogi’r lle i staff symud ar y safle sy’n ofynnol ar gyfer dechrau’r gwaith adeiladu ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi/Oncoleg. Mae 60 o ddesgiau wedi’u comisiynu ac mae trefniadau gweithio ystwyth yn cael eu sefydlu fel y bydd staff sy’n gweithio mewn lleoliadau cymunedol hefyd yn gallu defnyddio’r gofod a ddarperir.”

Mae newidiadau diweddar eraill i’n swyddfeydd, gan gynnwys Canolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa. Agorwyd y Ganolfan i'r cyhoedd yn Aberaeron fis diwethaf. Yno, mae stafell bwrpasol AskSara, addasiadau tai, cyfarpar gofal a symudedd yn ogystal â chymorth i ofalwyr, a llawer mwy. I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan, ewch i: Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa - Cyngor Sir Ceredigion

Dylai trigolion Ceredigion sy’n dymuno defnyddio gwasanaethau’r Cyngor barhau i gysylltu â thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Clic drwy: