Rhannau o Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi'u cau er lles iechyd y cyhoedd
Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.
Gwneir y Rheoliadau mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Daeth y rheoliadau i rym am 4pm ar 26 Mawrth 2020.
Mae'r Rheoliadau yn gosod oblygiad, ar Awdurdod Lleol i gau rhai llwybrau yn ystod yr argyfwng le mae’n ystyried:
- (a) eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu
- (b) bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder a lledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.
Gellir gweld rhestr o'r llwybrau cyhoeddus sydd ar gau dros dro yma, neu yn y tabl isod. Cliciwch y ddolen i weld y llwybrau caeedig ar map.
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar 1af Fedi 2021, ond mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan y Rheoliadau bob 21 o ddiwrnodau. Bydd y llwybrau ar gau nes ei fod o'r farn nad yw cau mwyach yn angenrheidiol i atal, amddiffyn rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd cyhoeddus i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda'r coronafeirws.
Felly mae rhannau o Lwybrau Cyhoeddus wedi cael eu cau dros dro er budd iechyd y cyhoedd lle mae'r rhain yn debygol o ymgynnull o bobl, lefelau uchel o ddefnydd a rhannau cul o'r llwybr lle nad yw'n bosibl mabwysiadu mesurau pellhau cymdeithasol personol.
Lleoliad | Hysbysiad | Map |
---|---|---|
Ysgol Penweddig Aberystwyth | Ysgol Penweddig Aberystwyth | Ysgol Penweddig Aberystwyth |
Ysgol Uwchradd Aberaeron | Ysgol Aberaeron | Ysgol Aberaeron |
Ysgol Llanfihangel y Creuddyn | Ysgol Llanfihangel y Creuddyn | Ysgol Llangfihangel y Creuddyn |