Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn £50,000 gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer 2018/19 (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gyngor Gweinyddu Gwirfoddol Cymru) i wneud gwelliannau yng nghyffiniau Bryngaer Pen Dinas yn Aberystwyth.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i helpu i gael mwy o fynediad i safle o bwysigrwydd hanesyddol (Bryngaer Pen Dinas, Gwarchodfa Natur Leol a Heneb Gofrestredig) a darparu gwell cyswllt i’r Llwybrau Beicio Ystwyth/Rheidol, Llwybr Arfordir Ceredigion a Chymru a chyfleusterau ac atyniadau lleol eraill. Bydd gwella lled ac arwyneb y llwybrau yn hwyluso mynediad i drawstoriad ehangach o bobl leol ac ymwelwyr ac yn targedu’r rhwystrau presennol at gefn gwlad.

Yn rhan o’r prosiect, yr ydym yn bwriadu ymgysylltu â thrigolion lleol er mwyn iddynt fod yn rhan o’r gwaith a fydd yn cael ei wneud; gall hyn gynnwys gwirfoddoli amser i helpu â gwaith ymarferol neu drwy ddarparu syniadau ynglŷn â sut y gellir gwella’r safle ymhellach; am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect neu ynglŷn â sut y gallwch chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk   neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch i siarad ag aelod o’r tîm.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi fod y gwaith o osod llwybr pren pwrpasol ar hyd Afon Teifi yng Nghenarth wedi gwblhau.

 Ariannwyd y cynllun drwy rhaglen gyfalaf y Cyngor a grant gan gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. Derbyniwyd rhodd hefyd gan Gyngor Cymuned Beulah.

Mae gwella lled ac arwyneb y llwybr wedi cynyddu mynediad i groestoriad ehangach o drigolion ac ymwelwyr ac mae’n dyst i ymrwymiad y Cyngor i dargedu cael gwared ar rwystrau i gael mynediad i gefn gwlad a chymhwyso’r egwyddorion mynediad lleiaf cyfyngol.

Mae gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect yn y broses adeiladu gychwynnol ac wrth helpu i gynnal y llwybr pren er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol.

Gellir hefyd gwneud rhoddion tuag at reoli a datblygu’r llwybr pren yn y dyfodol ar-lein yn Taliad Ar-lein - Cyngor Sir Ceredigion

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â’r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk  neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o'r tîm.