Dewisir Ardaloedd Cadwraeth Arbennig oherwydd bod ganddynt rai o enghreifftiau gorau Ewrop o ardaloedd bywyd gwyllt, creaduriaid a phlanhigion y mae angen gofalu amdanynt.

Mae Bae Ceredigion yn cynnwys dwy Ardal Cadwraeth Arbennig. Bwriad Ardal Cadwraeth Arbennig yw cynnal ac adfer cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd Ewropeaidd. Rheolir y ddau safle gan bartneriaeth o sefydliadau lleol a chenedlaethol (gan gynnwys y Cyngor Sir) sydd â chyfrifoldebau dros weithgareddau morol ac arfordirol.

Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion:

DolffinMae Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o anifeiliaid a phlanhigion y môr, gan gynnwys y Dolffiniaid Trwyn Potel a Morloi Llwyd yr Iwerydd. O ystyried y cynefinoedd gwerthfawr y maent yn dibynnu arnynt, mae'r Bae yn amgylchedd morol eithriadol ac o bwys rhyngwladol.

Er mwyn darganfod mwy, tarwch olwg ar wefan Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion sy'n rhoi gwybodaeth ynglŷn â bywyd gwyllt a chynefinoedd Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, sut mae'r safle yn cael ei rheoli, a sut y gallwch chi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o'n helpu ni i'w diogelu am y dyfodol.

Mae'r gwaith o reoli'r Ardal Cadwraeth Arbennig yn derbyn hwb drwy ddatblygiad Cynllun Cychod Hamdden y Cyngor. Mae addysg yn parhau i fod wrth galon y cynllun diweddaraf hwn. Mae Swyddog Cadwraeth yn mynd allan ar y cwch patrôl i hyrwyddo Cod Ymddygiad Ceredigion gyda meistri llongau yn yr ardal.

Ardal Cadwraeth Arbennig Penllŷn a Sarnau:

Morlo yn PenllynMae Ardal Cadwraeth Arbennig Penll?n a Sarnau yn cynnwys ardal enfawr, Penrhyn Ll?n i'r gogledd a'r Sarnau i'r de, ynghyd â'r aberoedd mawr ar hyd arfordir Meirionnydd a gogledd Ceredigion. Tri o riff creigiog yw'r Sarnau sy'n ymestyn hyd at 24 o gilometrau allan i'r môr. Ffurfiwyd o weddillion rhewlifol ar ôl i'r rhewlifau ddadlaith ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf. Mae Sarn Cynfelin yn Wallog yn dynodi ffin ddeheuol yr Ardal Cadwraeth Arbennig.

Mae'r Ardal Cadwraeth Arbennig hefyd yn bwysig oherwydd y Dolffiniaid Trwyn Potel a Morloi Llwyd yr Iwerydd.

Er mwyn darganfod mwy, tarwch olwg ar wefan Ardal Cadwraeth Arbennig Penllyn a Sarnau.

Ardal Cadwraeth Arbennig Ar y Glannau ac Ar y Môr: Gorllewin Cymru Forol

Mae yna Ardal Cadwraeth Arbennig Morol Ymgeisydd newydd, a nodwyd yn ACA Forol Gorllewin Cymru ar gyfer rhywogaeth Atodiad II; y llamhidydd. Gweler map o’r ardal yma.

Am ragor o wybodaeth, gweler y tudalen Gorllewin Cymru Forol ar y wefan JNCC: