Y Prif Gynllun Cymorth Costau Byw - taliad cymorth costau byw o £150 i bob aelwyd a oedd, ar 15 Chwefror 2022, yn atebol i dalu Treth y Cyngor ac naill ai:

  • yn byw mewn eiddo yng Ngheredigion sydd ym mandiau A-D treth y cyngor; neu
  • yn cael cymorth drwy Gostyngiadau Treth y Cyngor ni waeth ym mha fand y mae eu heiddo, neu’n
  • byw mewn eiddo band E ac yn derbyn gostyngiad i fand D oherwydd anabledd

Dim ond un taliad o £150 a gaiff ei wneud i bob aelwyd cymwys.

Nid yw’r prif gynllun ar gael os yw’r eiddo’n wag, yn ail gartref neu os yw’r meddiannydd yn derbyn eithriad rhag Treth y Cyngor.

Daeth y prif gynllun i ben am 5pm ar 30 Medi 2022 ac ni ellir gwneud rhagor o daliadau o dan y cynllun hwn.