Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol i’w galluogi i ddarparu cymorth o dan gynllun dewisol, i helpu aelwydydd yr ystyrir bod angen cymorth arnynt gyda’u costau byw.

Bydd Ceredigion yn defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi aelwydydd nad oeddent yn gymwys i gael cymorth o dan y prif gynllun ac sy’n bodloni’r meini prawf isod:

Bydd Taliad Costau Byw Dewisol o £150 yn cael ei wneud i aelwydydd sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • mae’r person sy’n atebol am dalu Treth y Cyngor yn byw mewn eiddo yng Ngheredigion fel ei brif breswylfa ar 15 Chwefror 2022 neu wedi symud i dderbyn neu ddarparu gofal yn rhywle arall; ac
  • nid ydynt wedi derbyn taliad Cymorth Costau Byw o dan y prif gynllun: ac
  • maent yn derbyn un o’r eithriadau, gostyngiadau neu ddisgowntiau canlynol mewn perthynas â Threth y Cyngor:
    1. Eithriad Dosbarth I - Nid oes unrhyw un yn byw yn yr eiddo gan fod y person sy’n atebol yn absennol o’r eiddo gan ei fod yn derbyn gofal yn rhywle arall, ond nid mewn cartref gofal
    2. Eithriad Dosbarth J - Nid oes unrhyw un yn byw yn yr eiddo gan fod y person sy’n atebol yn absennol o’r eiddo gan ei fod yn darparu gofal personol i berson arall yn rhywle arall
    3. Eithriad Dosbarth U – mae’r holl breswylwyr â nam meddyliol difrifol
    4. Eithriad Dosbarth X – pobl sy’n gadael gofal sy’n 18 oed neu’n hŷn ond o dan 25 oed
    5. Bandiau Treth y Cyngor F i I sy’n derbyn gostyngiad yn y band oherwydd anabledd
    6. Person atebol sy’n byw ar ei ben ei hun mewn eiddo band E i I Treth y Cyngor sy’n cael gostyngiad person sengl o 25%

Dim ond un taliad a gaiff ei wneud i bob aelwyd cymwys, ac yn achos atebolrwydd ar y cyd ac unigol, bydd y taliad yn cael ei wneud i’r person cyntaf a enwir ar fil y Dreth Gyngor.

Ycamau nesaf ar gyfer y cynllun dewisol

Cam 1

  • Os oes gennym eich manylion Debyd Uniongyrchol ar eich cyfrif Treth y Cyngor a’ch bod yn bodloni un o’r meini prawf cymhwyso a restrir ym mhwyntiau 1 i 6 uchod, byddwn yn ceisio gwneud y taliad o £150 yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 14 Tachwedd 2022
  • Os nad oes gennym eich manylion Debyd Uniongyrchol ar eich cyfrif Treth y Cyngor a’ch bod yn bodloni un o’r meini prawf cymhwyso a restrir ym mhwyntiau 1 i 6 uchod, byddwn yn trefnu i Swyddfa’r Post anfon llythyr taleb i gasglu’r taliad Costau Byw o £150 yn unrhyw un o’u canghennau. Bydd y llythyrau yn cael eu hanfon yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 14 Tachwedd 2022

Cam 2

  • Ar ôl cwblhau cam 1 uchod, os oes cyllid yn weddill o dan y cynllun Dewisol, bydd Ceredigion yn agor ffurflen gofrestru ar-lein i aelwydydd nad ydynt wedi cael taliad Costau Byw o £150 ac sy’n profi caledi sylweddol

Bydd y ffurflen gofrestru ar-lein ynghyd â’r canllawiau yn ymddangos yma os a phan fydd Cam 2 yn agor.

Mae gennym tan 31 Mawrth 2023 i weinyddu’r holl daliadau o dan y cynllun Dewisol; fodd bynnag, bydd y cynllun yn cau’n gynt os bydd ein dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio/wedi’i wario’n llawn.