​Gelwir rhai mathau o eiddo rhent yn dai amlfeddiannaeth (HMO). Fel y mae’r term yn ei awgrymu, eiddo neu annedd lle nad oes un teulu’n byw yw tŷ amlfeddiannaeth yn gyffredinol.

Mae rheolau arbennig ynghlwm wrth eiddo o’r fath. Eu nod yw sicrhau bod yr eiddo’n ddiogel ac yn cael ei reoli’n dda. Gwneir hyn yn bennaf drwy drefn drwyddedu.

I gael gwybod a yw’r eiddo rydych chi’n byw ynddo’n dŷ amlfeddiannaeth neu i gael gwybod a yw’r Cyngor wedi’i drwyddedu, ewch i’n tudalennau Tai Amlfeddiannaeth.

Fel tenant, mae’n bwysig eich bod yn gwybod a yw’r eiddo’n dŷ amlfeddiannaeth ai peidio oherwydd, fel tenant mewn eiddo o’r fath, mae gennych rai hawliau a chyfrifoldebau ychwanegol.

  • Rhaid i dŷ amlfeddiannaeth gael ei reoli’n briodol – os na fydd rheolwr neu landlord yn gwneud hyn, gall fod yn cyflawni trosedd droseddol
  • Rhaid i nifer o dai amlfeddiannaeth gael ei drwyddedu gan y Cyngor. Bydd hyn yn sicrhau bod yr eiddo’n addas ar gyfer nifer y bobl sy’n byw ynddo a bod y trefniadau rheoli’n dderbyniol
  • Gellir diogelu’r rheini sy’n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (a’r rheini sy’n byw mewn eiddo cyfagos) rhag niwed difrifol drwy i’r Cyngor ysgwyddo cyfrifoldeb dros reoli’r eiddo (os yw hwn yn ddewis olaf priodol)
  • Os ceir landlord yn euog o fethu â thrwyddedu tŷ amlfeddiannaeth, gall y tenantiaid hawlio ad-daliadau rhent
  • Fel tenant tŷ amlfeddiannaeth, rhaid i chi roi caniatâd rhesymol i’r rheolwr gyflawni’i ddyletswyddau – a phe baech yn ei rwystro rhag gwneud hynny’n fwriadol, fe allech fod yn cyflawni trosedd!
  • Os ydych yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth trwyddedadwy ond nad oes gan y tŷ drwydded, ni fydd modd i’r landlord eich troi chi allan gan ddefnyddio ‘hysbysiad adran 21’. Mae hyn yn golygu na allwch chi gael eich troi allan heb reswm neu sail – fel peidio â thalu’r rhent. (Bydd yr eiddo’n ‘dŷ amlfeddiannaeth heb drwydded’ hyd nes y bydd cais yn cael ei gyflwyno.) Darllenwch ein tudalennau am faterion tenantiaeth.

Gall unrhyw weithred sy’n atal y rheolwr rhag cyflawni’r dyletswyddau a nodir yn y ‘Rheoliadau Rheoli’ fod yn rhwystr. Mae disgwyl i’r rheolwyr roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw denantiaid sy’n eu hatal rhag cyflawni’u dyletswyddau. Cewch wybodaeth am y dylestwyddau hyn drwy ymweld a'r dudalen Cyfrifoldebau Rheoli.

Yr hyn y gallwch ei wneud

Gallwch gadarnhau statws eich Tŷ Amlfeddiannaeth drwy edrych ar ein cofrestr gyhoeddus. Dylech hefyd gysylltu â ni os ydych yn credu bod eich eiddo’n dŷ amlfeddiannaeth heb drwydded.

Gallwch hefyd gysylltu â ni os nad ydych yn credu bod eich landlord yn rheoli’ch cartref yn briodol. Bydd y Cyngor yn ymchwilio i’ch pryderon ac fe all gymryd camau yn erbyn y rheolwr os yw’n briodol. Cyhyd ag y bo’n ymarferol, bydd y Cyngor yn ceisio cadw enwau’r rheini sydd wedi cyflwyno gwybodaeth neu gŵyn i ni yn gyfrinachol.