Os ydych am symud o’ch eiddo rhent, dylech roi gwybod i’ch landlord yn ysgrifenedig eich bod am derfynu’r cytundeb tenantiaeth.

Ni allwch chi droi’ch cefn ar yr eiddo neu bostio’r allweddi drwy’r blwch llythyrau. ‘Cefnu ar eiddo’ yw’r enw ar hyn ac ni fydd eich cytundeb tenantiaeth yn dod i ben. Bydd eich cytundeb â’r landlord yn parhau hyd yn oed os byddwch wedi gadael a gall y landlord barhau i godi rhent. Felly, mae’n debygol y bydd ôl-ddyledion rhent yn cronni.

Terfynu tenantiaeth cyfnod penodol

Os oes gennych gytundeb am gyfnod penodol (e.e. chwe mis), gallwch adael ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol heb roi rhybudd. Ond rhaid i chi sicrhau nad ydych yn aros am un diwrnod ychwanegol, hyd yn oed. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn dod yn denant cyfnodol yn awtomatig a bydd rhaid i chi roi rhybudd priodol neu ddod i gytundeb â’ch landlord.

Os ydych yn bwriadu gadael ar y diwrnod olaf, nid yw’r gyfraith yn mynnu eich bod yn rhoi unrhyw rybudd i’r landlord. Serch hynny, mae’n syniad da gwneud hynny i osgoi unrhyw anghydfod ynghylch pryd y gwnaethoch chi adael. O gyfathrebu’n effeithiol, bydd yn helpu i sicrhau bod popeth yn mynd yn esmwyth. Cofiwch y gall fod angen geirda arnoch i gael cartref newydd ac, os byddwch wedi talu blaendal, rydych yn fwy tebygol o’i gael yn ôl os byddwch yn rhoi gwybod i’r landlord beth sy’n digwydd.

Terfynu tenantiaeth cyfnod penodol yn gynnar

Mae llawer o gytundebau cyfnod penodol (gan gynnwys rhai tenantiaethau byrddaliol sicr gyda landlordiaid preifat) yn cynnwys ‘cymal torri’ sy’n caniatáu i chi derfynu’r cytundeb cyn diwedd y cyfnod penodol. Cewch gipolwg ar eich cytundeb i weld a yw’n cynnwys cymal o’r fath.

Os yw’n cynnwys cymal torri, dylai hefyd nodi faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi ac a oes rhaid i chi ddilyn unrhyw weithdrefnau arbennig.

Os nad yw’n cynnwys cymal torri, ni allwch chi derfynu’r denantiaeth yn gynnar, oni bai fod y landlord yn cytuno. Os byddwch yn gadael yr eiddo beth bynnag, gallech barhau i fod yn gyfrifol am dalu’r rhent tan ddiwedd y cyfnod.

Terfynu tenantiaeth gyfnodol

Os byddwch yn aros ar ôl i’r cyfnod penodol ddod i ben, ac os na fydd y landlord yn rhoi cytundeb cyfnod penodol newydd i chi, bydd eich tenantiaeth neu’ch trwydded yn troi’n gyfnodol yn awtomatig. Felly, bydd y denantiaeth neu’r drwydded yn treiglo o wythnos i wythnos neu o fis i fis.

Fel arfer, bydd rhaid i chi roi o leiaf bedair wythnos o rybudd i derfynu’r denantiaeth, neu fis calendr os oes gennych denantiaeth fisol. Yr unig eithriadau yw:

  • os yw’ch landlord yn cytuno i dderbyn cyfnod rhybudd byrrach (ildio) neu’n cytuno y caiff rhywun arall gymryd eich lle (gweler isod)
  • os ydych yn breswylydd eithriedig. Os felly, bydd hyd y rhybudd y mae’n rhaid i chi ei roi yn dibynnu ar p’un a oes gennych gytundeb tenantiaeth neu drwydded. Gall fod yn eithaf cymhleth penderfynu a oes gennych denantiaeth neu drwydded, yn enwedig os nad oes gennych gytundeb ysgrifenedig. Dylech ofyn am gyngor os nad ydych yn sicr
  • os na allwch chi gytuno ar ddyddiad rydych chi a’ch landlord yn fodlon ag ef; NEU
  • os ydych yn talu rhent yn llai aml na bob mis (bob tri mis, er enghraifft). Mewn achos o’r fath, bydd rhaid i chi roi rhybudd sy’n cyfateb i’r cyfnod rhent

Mae bob amser yn well rhoi rhybudd ysgrifenedig a sicrhau bod y rhybudd yn dod i ben ar ddiwrnod cyntaf neu ddiwrnod olaf cyfnod y denantiaeth. Er enghraifft, os oes gennych denantiaeth fisol a’i bod wedi cychwyn ar y pumed o’r mis, dylai’r rhybudd rydych chi’n ei roi i’r landlord ddod i ben ar y pedwerydd neu’r pumed. Gofynnwch am gyngor os ydych yn ansicr ynghylch y dyddiadau.

Gadael drwy ddod i gytundeb â’r landlord

Mae’n bosibl terfynu tenantiaeth unrhyw bryd os gallwch ddod i gytundeb â’r landlord. ‘Ildio’ yw’r enw ar hyn. I fod yn ddilys, rhaid i’r ddwy ochr gytuno, ac mae bob amser yn well cofnodi’r hyn y cytunwyd arno’n ysgrifenedig i sicrhau bod pawb yn deall y sefyllfa. Os oes gennych gyd-denantiaeth, rhaid i’r holl gyd-denantiaid a’r landlord gytuno i ildio.

Mae’n werth gofyn a yw’r landlord yn barod i drafod, hyd yn oed os yw’ch cytundeb tenantiaeth yn dweud na allwch chi adael yn gynnar. Fe allai fod yn gyfleus i’r ddau ohonoch.

Cael hyd i rywun arall i symud i’r eiddo

Gall fod yn bosibl i chi wneud hyn os nad oes gennych unrhyw ddewis ond gadael yn gynnar ac os ydych am osgoi talu rhent am fwy nag un cartref. Serch hynny, rhaid i’ch landlord gytuno bod yr unigolyn a gynigir gennych yn cael symud i’r eiddo. Efallai y bydd y landlord am gael geirda ar ei gyfer. Dylai’r landlord roi cytundeb tenantiaeth neu drwydded i’r tenant newydd – fel arall, byddwch chi’n dal i ysgwyddo cyfrifoldeb cyfreithiol dros y denantiaeth.

Troi’ch cefn ar yr eiddo

Os byddwch yn troi’ch cefn ar yr eiddo neu’n postio’r allweddi drwy’r blwch llythyrau, byddwch yn ‘cefnu ar yr eiddo’ ac ni fyddwch yn terfynu’ch cytundeb. Bydd eich cytundeb â’r landlord yn parhau er eich bod wedi gadael a gall y landlord barhau i godi rhent. Felly, mae’n debygol y bydd ôl-ddyledion rhent yn cronni.

Gall y landlord wneud cais am orchymyn llys i fynnu eich bod yn talu’ch dyled. Bydd y llys yn penderfynu a ddylai fod yn rhaid i chi dalu’r arian i’ch landlord ai peidio. Os bydd y landlord wedi llwyddo i osod yr eiddo, ni fydd modd iddo hawlio rhent gennych chi ar ôl i’r tenant newydd symud i’r eiddo.

Os byddwch yn cefnu ar eiddo, gall fod yn anoddach i chi gael hyd i gartref newydd. Mae’r rhan fwyaf o’r landlordiaid preifat yn gofyn i denantiaid newydd ddarparu geirda gan landlordiaid blaenorol. Dydyn nhw ddim yn awyddus i osod tŷ i unrhyw un sydd wedi cefnu ar denantiaeth neu drwydded yn y gorffennol, neu rywun sydd â hanes o ôl-ddyledion rhent.

Yn yr un modd, mae’n bwysig sicrhau bod gennych rywle i fynd iddo pan fyddwch yn gadael. Os bydd angen i chi wneud cais digartrefedd yn y dyfodol, fe allai’r cyngor benderfynu eich bod yn fwriadol ddigartref oherwydd i chi adael cartref y gallech fod wedi aros ynddo.