Tenantiaethau Sicr
Mae’n debygol eich bod yn denant sicr:
- os ydych yn talu rhent i landlord preifat ac
- os oes gennych reolaeth dros eich cartref sy’n golygu na all eich landlord na phobl eraill ddod i mewn fel y mynnant ac
- os nad yw’r landlord yn byw yn yr un adeilad â chi (oni bai ei fod yn floc o fflatiau) ac
- os bu i chi symud i mewn rhwng 15fed Ionawr 1989 a 27ain Chwefror 1997 heb i’ch landlord roi hysbysiad i chi yn dweud bod gennych denantiaeth fyrddaliol sicr
Mae’r gyfraith yn rhoi’r un hawliau i chi â thenant byrddaliol sicr (uchod), yn ogystal â hawl:
- i herio unrhyw gynnig i gynyddu’r rhent
- i drosglwyddo’ch tenantiaeth i rywun arall o dan amgylchiadau penodol
Cynyddu’r rhent
Os ydych yn denant cyfnod penodol, ni all eich landlord gynyddu’r rhent oni bai eich bod yn cytuno y caiff wneud hynny.
Os ydych yn denant cyfnodol, gall eich landlord gynyddu’r rhent:
- os ydych yn cytuno â’r cynnydd
- os oes gweithdrefn i gynyddu’r rhent wedi’i nodi yn eich cytundeb tenantiaeth
- os yw’ch landlord yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi ei fod yn bwriadu cynyddu’r rhent
- os yw’ch landlord yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi ei fod yn newid telerau’ch cytundeb
Os bydd eich landlord yn ceisio cynyddu’r rhent pan nad oes modd iddo wneud hynny a phan nad ydych yn cytuno y caiff wneud hynny, nid oes modd eich troi chi allan ar yr amod eich bod yn parhau i dalu’r rhent yr ydych wedi cytuno i’w dalu. Ond, os byddwch yn dechrau talu’r rhent uwch, mae’r gyfraith yn tybio eich bod wedi cytuno â’r cynnydd a bydd rhaid i chi barhau i’w dalu.
Os bydd eich landlord yn rhoi rhybudd i chi ei fod yn bwriadu cynyddu’r rhent ac os na fyddwch yn cytuno â’r cynnydd, gall fod modd i chi ei herio. Weithiau, mae’n bosibl gofyn i’r pwyllgor asesu rhent bennu swm y rhent i’w godi.
Trosglwyddo’ch tenantiaeth i rywun arall
Os byddwch yn trosglwyddo’ch tenantiaeth i rywun arall, ni fydd gennych hawl gyfreithiol i fyw yn eich cartref mwyach. Dim ond o dan amgylchiadau penodol y cewch drosglwyddo’ch tenantiaeth sicr i rywun arall, sef:
- os byddwch yn marw (gweler isod)
- os yw’ch cytundeb tenantiaeth yn dweud y cewch drosglwyddo’ch tenantiaeth
- os yw’r landlord yn cytuno y cewch wneud hynny
Os byddwch yn ceisio trosglwyddo’ch tenantiaeth i rywun arall o dan unrhyw amgylchiadau eraill, gall fod modd i’ch landlord ddirwyn eich tenantiaeth i ben.
Os bydd tenant sicr yn marw, gall fod yn bosibl trosglwyddo’r denantiaeth i’w briod, i’w bartner sifil neu i’w bartner. Olyniaeth yw’r enw ar hyn. Dim ond os na chafodd y denantiaeth ei throsglwyddo o’r blaen drwy olyniaeth y gellir gwneud hyn. Gellir trosglwyddo’r denantiaeth yn y modd hwn dim ond os yw’r priod, y partner sifil neu’r partner yn byw yn yr eiddo pan fydd y tenant yn marw.
Troi allan
Mae tenantiaid sicr yn fwy diogel na thenantiaid byrddaliol sicr. Dim ond os bydd y llys yn cytuno i roi gorchymyn ildio meddiant y caiff y landlord eich troi chi allan. Cyn i’r llys wneud gorchymyn ildio meddiant, rhaid bod gan eich landlord reswm (‘sail’) i’ch troi chi allan a rhaid ei fod wedi dilyn y drefn gyfreithiol gywir.
Cyn mynd i’r llys, rhaid i’r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i chi. Rhaid i’r rhybudd fod ar ffurf arbennig. Rhaid iddo egluro pam fod y landlord am eich troi chi allan a rhaid iddo bennu’r dyddiad cynharaf y gall yr achos llys gychwyn. Mae hyd y rhybudd y mae’n rhaid i’ch landlord ei roi yn dibynnu ar y rheswm/rhesymau yr ydych yn cael eich troi allan. Gall amrywio o 14 diwrnod i ddau fis.
Gall eich landlord gychwyn achos llys i’ch troi chi allan ar unrhyw adeg hyd at yn union 12 mis ar ôl dyddiad y rhybudd. Ar ôl hynny, rhaid i’ch landlord roi rhybudd newydd i gael gorchymyn llys.
Mae’r gyfraith yn pennu’r rhesymau y gall landlordiaid eu defnyddio i droi tenantiaid eraill. Fe’u gelwir yn ‘seiliau dros feddiannu’. Fe’u rhennir yn ddau grŵp, sef seiliau gorfodol a seiliau dewisol.
Dyma enghreifftiau o’r seiliau gorfodol:
- mae gennych dros wyth wythnos (neu ddau fis os ydych yn talu’ch rhent yn fisol) o ôl-dyledion rhent
- mae benthyciwr morgais eich landlord yn adfeddiannu’r eiddo
- cawsoch wybod ymlaen llaw fod eich landlord yn arfer byw yn yr eiddo
- mae’r eiddo’n cael ei ailddatblygu
Os yw’ch landlord yn defnyddio sail ddewisol dros feddiannu’r eiddo, ni all y llys wneud gorchymyn ildio meddiant oni bai ei bod yn rhesymol iddo wneud hynny. Dyma enghreifftiau o’r seiliau dewisol:
- mae gennych rai ôl-ddyledion rhent
- rydych yn hwyr yn talu’ch rhent o hyd
- rydych wedi torri’ch cytundeb tenantiaeth
- rydych wedi achosi niwsans neu ddefnyddio’r eiddo ar gyfer gweithgareddau anghyfreithiol
- rydych wedi caniatáu i gyflwr yr eiddo ddirywio
Cewch gyfle i ddarparu gwybodaeth i’r llys i helpu’r barnwr i benderfynu a ddylid eich troi chi allan ai peidio. Gallwch anfon gwybodaeth i’r llys a/neu fynd i’r gwrandawiad. Bydd y llys yn ystyried eich sefyllfa (fel eich iechyd a’ch incwm) pan fydd yn penderfynu a yw’n rhesymol gwneud gorchymyn ildio meddiant. Gall fod yn bosibl gohirio gorchymyn ildio meddiant am hyd at chwe mis os yw’n achosi caledi eithriadol i chi.
Os na fyddwch wedi gadael yr eiddo erbyn i’r gorchymyn llys ddod i rym, gall y llys ofyn i feilïaid ddod i’ch symud o’r eiddo.
Os bydd y landlord yn ceisio gwneud i chi adael heb ddilyn y weithdrefn gywir, gall fod yn euog o gyflawni trosedd. Ewch i’r dudalen flonyddu a throi allan anghyfreithlon i gael mwy o wybodaeth.