​System sy’n cael ei defnyddio gan yr Awdurdodau Lleol i asesu pa mor addas yw tai i bobl fyw ynddynt yw’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Yn 2006, cymerodd y system hon le’r system flaenorol – ‘y Safon Ffitrwydd’.

Mae’n seiliedig ar yr egwyddor y gellir mynd ati’n wrthrychol i asesu unrhyw annedd, gan gynnwys ei strwythur, ei mynedfa, unrhyw dai allan a’r ardd, i bennu pa mor ddiogel yw’r annedd i’r bobl sy’n byw ynddi ac unrhyw ymwelwyr. O dan y system hon, gellir pennu pa waith y dylid ei gyflawni i sicrhau nad oes peryglon diangen y gellir eu hosgoi yn yr annedd.

Ar sail ystadegau cenedlaethol am yr hyn sy’n achosi damweiniau yn y cartref a chanlyniadau’r damweiniau hynny, mae’r system yn rhoi ‘sgôr’ i unrhyw beryglon y bydd arolygydd yn dod ar eu traws. Cafodd y peryglon eu grwpio mewn 29 categori, fel y gwelwch isod. Wrth asesu unrhyw berygl penodol, caiff yr holl ddiffygion sy’n cyfrannu ato eu hasesu. Gall un diffyg gyfrannu at nifer o wahanol beryglon.​

Mae’r sgôr yn seiliedig ar ddwy elfen:

  • Pa mor debygol yw hi y bydd math penodol o berygl yn achosi niwed yn ystod y flwyddyn nesaf o’i gymharu â’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl mewn eiddo tebyg
  • Faint o niwed y mae’r perygl hwnnw’n debygol o’i achosi i’r preswylwyr

Wrth asesu, mae’r awdurdodau lleol yn ystyried y bobl y byddai unrhyw berygl penodol yn effeithio arnynt fwyaf – (‘y grŵp sy’n agored i niwed’). Felly, er enghraifft, caiff Oerni Gormodol ei asesu o safbwynt yr henoed neu blant ifanc.

Os yw’n debygol iawn y bydd damwain neu niwed yn digwydd ac os yw’r canlyniad yn debygol o fod yn ddifrifol i’r grŵp sy’n agored i niwed, bydd y sgôr yn uchel, a gellir pennu ei fod yn ‘Berygl Categori 1’. Mewn achos o’r fath, mae dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i fynd ati i leihau’r risg i’r preswylwyr neu’r darpar breswylwyr. Ar ôl iddo asesu’r risgiau, rhaid i’r Awdurdod ystyried deiliadaeth yr eiddo a ph’run a yw’r preswylwyr presennol yn wynebu risg o’r fath a rhaid iddo benderfynu pa gamau i’w cymryd yn unol â hynny. Er enghraifft, gallai roi hysbysiad gwaith i’r perchennog. Gall y Cyngor ymdrin â pheryglon llai difrifol fel y gwêl yn dda. I gael mwy o wybodaeth am y camau y gellir eu cymryd, ewch i’r dudalen Dyletswyddau a Phwerau.

Wrth gwrs, nid yw’n rhwydd cael gwared ar rai peryglon ar unwaith – er enghraifft grisiau serth – ond bydd modd lleihau’r risg y bydd unigolyn yn cael niwed ar ôl cwympo drwy leoli canllawiau yn y lle iawn. Os nad oes dull ymarferol o leihau’r peryglon at lefel dderbyniol, gall y Cyngor ystyried gwahardd defnyddio’r adeilad neu ran ohono at ddibenion preswyl.

Isod, rhestrir y 29 math o berygl. I gael manylion am y math o ddiffyg a all gyfrannu at y math mwyaf cyffredin o berygl, cewch afael ar y ddogfen ‘Yr Eiddo Delfrydol’ yn yr adran Lawrlwytho, ynghyd â disgrifiad o’r safon sylfaenol lle nad oes unrhyw berygl ar gael. Nid safon ofynnol ar gyfer pob eiddo yw hon; rhaid asesu pob adeilad fesul achos.

Gofynion ffisiolegol

    1. Tamprwydd a llwydni’n tyfu
    2. Oerfel gormodol
    3. Gwres gormodol
    4. Asbestos ac MMF (Manufactured Mineral Fibres)
    5. Bioladdwyr
    6. Carbon monocsid a chynhyrchion hylosgi tanwydd
    7. Plwm
    8. Ymbelydredd
    9. Nwy tanwydd heb ei hylosgi
    10. Cyfansoddion organig anweddol

Gofynion Seicolegol

    1. Gorlenwi a lle
    2. Dieithriaid yn gallu cerdded i mewn
    3. Golau
    4. Sŵn

Diogelu rhag haint

    1. Hylendid domestig, plâu a sbwriel
    2. Diogelwch bwyd
    3. Hylendid personol, glanweithdra a draenio
    4. Cyflenwad dŵr

Diogelu rhag damweiniau

    1. Codymau sy’n gysylltiedig â’r bath ac ati
    2. Cwympo ar arwynebau gwastad ac ati
    3. Cwympo ar risiau ac ati
    4. Cwympo rhwng lefelau
    5. Peryglon trydanol
    6. Tân
    7. Fflamau, arwynebau poeth ac ati
    8. Gwrthdaro a chaethiw
    9. Ffrwydron
    10. Safle amwynderau a pha mor rhwydd ydynt i’w gweithio ac ati
    11. Strwythurau sydd wedi cwympo ac elfennau sy’n disgyn