Bydd y prosiect, ‘Cartrefi Clyd Ceredigion’ yn cynnig cyngor a chymorth i bobl leol a allai fod mewn perygl o beidio â gallu fforddio gwresogi eu cartrefi. Bydd ymgynghorwyr ar fudd-daliadau ac ynni profiadol o Gymorth ar Bopeth yn rhoi cymorth unigol i ddeiliaid tai ac yn eu helpu i gael gafael ar gyllid neu gynyddu eu hincwm ynghyd â chymorth ymarferol ynghylch defnyddio ynni a sicrhau cartref cynhesach.

Gall Chyngor ar Bopeth Ceredigion sicrhau bod deiliaid tai yn deall beth yw’r ffyrdd gorau o wresogi eu cartrefi, sut i leihau biliau a sut i ymdrin â phroblemau megis dyled ac incwm isel.

Gall Cymorth am Bopeth rhoi cymorth i chi efo’r canlynol:

  • Efallai fyddwch yn gymwys i dderbyn grantiau a gostyngiadau ynni
  • Efallai y wnewch chi arbed arian drwy newud eich cyflenwr ynni neu’ch tariff neu drwy ymuno â chlwb tanwydd
  • Dewch a’ch biliau i lawr wrth ddilyn cyngor syml o ran effeithlonrwydd ynni
  • Gofynnwch am help i herio biliau anghywir a’i reoli dyledion
  • Gofynnwch am gyngor ynglŷn â hawlio’r cwbl o’r budd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn

Os hoffech chi gael cyngor a chymorth am ddim a chithau’n gyfforddus yn eich cartref eich hun, anfonwch air at Cyngor ar Bopeth Ceredigion:

Ffôn: 01239 621974
E-bost: enquiries@cabceredigion.org
Gofynnwch am William neu Bronwen