Weithiau, gall tŷ fod yn wag am gyfnod er ei fod yn cael ei ddefnyddio ar adegau eraill, er enghraifft, cartref gwyliau, tŷ lle mae gweithwyr tymhorol neu fyfyrwyr yn byw neu dŷ lle mae’n rhaid i’r perchennog deithio cryn dipyn gyda’i swydd.

Nid yw’r Cyngor yn dynodi’r tai hyn fel tai gwag. Serch hynny, gall fod problemau o ran cadw’r tai’n ddiogel rhag fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithaso.

Y ffordd orau o gadw tŷ gwag yn ddiogel rhag sgwatwyr a fandaliaid yw cael rhywun i fyw ynddo. Mae'n bosib bod yna rai cwmnïau gwarchod eiddo / gofalwyr / gwarcheidwaid eiddo ar gael i ofalu am eich tŷ drwy gael rhywun i aros yno, ac mae cynlluniau byrdymor ar gael hefyd, fel mentrau tai cydweithredol sy’n ‘cael benthyg’ tŷ ar brydles neu drwydded fer a’i ddychwelyd ar ddyddiad a bennir gan y perchennog.

Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch ofyn i’r cymdogion gadw llygad ar y tŷ a gallwch roi gwybod i’r cynllun gwarchod cymdogaeth lleol. Dylai fod gan swyddfa leol yr heddlu fanylion am unrhyw gynllun lleol.

Os yw’n ymddangos fel pe bai rhywun yn byw yn y tŷ, mae troseddwyr yn llai tebygol o’i dargedu. Mae llawer o ddyfeisiau ar y farchnad sy’n gallu cynnau a diffodd goleuadau a pheiriannau ar adegau penodol. Mae dyfeisiau ar gael i agor a chau llenni hyd yn oed.

Gwnewch yn siŵr bod gennych system larwm sy’n cael ei rheoli’n ganolog er mwyn i chi gael gwybod os bydd rhywun yn tresmasu. Gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun gweithredu rhag ofn y bydd y larwm yn seinio (yn enwedig os bydd yn seinio’n ddamweiniol).

Os nad ydych yn bwriadu byw yn y tŷ am beth amser a’ch bod yn disgwyl iddo fod yn wag am gyfnod hir, gallwch drefnu iddo gael ei fordio. I wneud hyn, rhaid gosod darnau o bren neu fetel dros y ffenestri a’r drysau i atal neb rhag mynd i’r eiddo. Mewn gwirionedd, mae’r opsiwn hwn yn fwy addas ar gyfer tai sy’n dadfeilio neu dai a fyddai’n beryglus pe bai rhywun yn mynd iddynt e.e. ar ôl tân. Anaml y mae cymdogion yn hoffi gweld tai’n cael eu bordio. Byddai’n well gwerthu’r tŷ i sicrhau bod modd ei ddefnyddio eto.

Cofiwch wneud yn siŵr fod yr eiddo wedi’i yswirio a’ch bod yn ymwybodol o delerau’r yswiriant.