Mae’r Gwasanaeth Cymorth ac Atal yn cynnig dulliau dan arweiniad y teulu i alluogi plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ehangach i gael eu grymuso, i gyflawni, i ddatblygu’n bersonol, yn emosiynol, ac yn gymdeithasol a bod y gorau y gallant fod. Cefnogi pobl ifanc rhwng 11-25 gyda ffocws a chefnogaeth mynediad agored.
Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu; Gwaith ieuenctid mewn ysgolion, dilyniant addysg, dysgu achrededig, a chyfranogiad
Mae Gweithwyr Ieuenctid sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion yn ymgysylltu â phobl ifanc 11 – 18 oed mewn cyd-destunau cyffredinol a phenodol. Mae Gweithwyr Ieuenctid yn ceisio meithrin a chynnal perthynas ystyrlon â phob disgybl ysgol gan gynnwys disgyblion a gyfeiriwyd ac a ystyrir eu bod mewn perygl o ymddieithrio o addysg brif ffrwd o achos un neu lu o resymau.
Mae Gweithwyr Ieuenctid yn creu perthynas yn seiliedig ar ymwneud gwirfoddol. Drwy gymryd rhan gydag unigolion, gall Gweithwyr Ieuenctid ddylunio cynllun wedi’i deilwra sy’n cynnig cymorth ar sail anghenion personol, cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yr unigolyn. Gellir darparu hyn o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol, a gall fod yn benodol neu’n gyffredinol.
Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal; cymorth oed 16-24, gwaith allgymorth cymunedol, canolfannau ieuenctid, darpariaeth benodol a chyffredinol.
Mae ein tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal yn darparu ymyriadau cyffredinol ac ymyriadau wedi’u targedu gyda’r nod o liniaru a mynd i’r afael â ffactorau risg posibl neu faterion sylfaenol megis materion teuluol, cymdeithasol, unigol, addysgol, neu iechyd meddwl ac emosiynol, a allai godi ac a allai eu rhoi mewn mwy o berygl o droseddu ac aildroseddu. Hefyd, eu hatal rhag bod angen ymyrraeth statudol bellach megis gwasanaethau iechyd meddwl proffesiynol, ymyrraeth feddygol bellach a hyd yn oed cymorth tai, er enghraifft.
Mae ein tîm Gwaith ac Atal Ieuenctid Cymunedol yn darparu ymyriadau wedi’u targedu a chyffredinol gyda’r nod o daclo a lleihau ffactorau risg posib neu faterion sylfaenol megis materion teuluol, cymdeithasol, personol, addysgol, neu iechyd meddwl ac emosiynol, Mae’r rhain yn gallu digwydd a rhoi’r bobl mewn mwy o beryg o droseddu ac aildroseddu. Hefyd, eu hatal rhag gorfod cael ymyrraeth statudol bellach megis gwasanaethau iechyd meddwl proffesiynol, ymyrraeth feddygol a hyd yn oed cymorth tai, er enghraifft.
Mae'r darpariaethau'n amrywio o weithgareddau allgymorth, symudol a datgysylltiedig, canolfannau ieuenctid a chlybiau, a rhaglenni a phrosiectau cydweithredol wedi'u targedu.
Llwybrau Cymorth; Ymyriadau gydol oed, dyraniadau, sgrinio, sicrhau ansawdd, dadansoddi data a pherfformiad, cymorth adnoddau
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhan o’n cynnig cyffredinol, ewch i’n tudalennau gwe trwy https://www.giceredigionys.co.uk/hafan/
Neu ewch i’n tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol:
Twitter twitter.com/giceredigionys?s=11&t=MocMlzQCo2bssCm_5M2dFw;
Facebook: - https://www.facebook.com/GICeredigionYS;
Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion
www.yfc-ceredigion.org.uk/
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion
www.giceredigionys.co.uk
Urdd
www.urdd.cymru
Area 43
www.area43.co.uk
Cysylltwch
Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:
Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein
Post:
Porth y Gymuned
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Ffôn:
01545 574220
Oriau Cyswllt:
8.45am - 5:00pm Llun - Iau
8.45am - 4.30pm Gwener