Mae Dechrau’n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio cynnig mwy o gymorth a chyfleoedd i deuluoedd sy’n cynnwys plant dan 4 oed.
Mae’r 4 gwasanaeth craidd a ddarparir fel a ganlyn:-
- Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar
- Gofal plant
- Cymorth Rhianta
- Cymorth Cynnar gydag Iaith
Mae modd gweld rhagor o fanylion am y gwasanaethau hyn yn ein llyfryn gwybodaeth.
Rydym nawr wedi addasu ein holl wasanaethau i'w darparu naill ai wyneb yn wyneb, mewn grwpiau, ar-lein, neu dros y ffôn yn ystod y cyfnod hwn, fel y mae Canllawiau COVID 19 yn caniatáu.
Rydym yn darparu:
- Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar. Mae gennym Dîm Ymwelwyr Iechyd sydd yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd, sydd yn medru cynnig gwasnaeth mwy dwys pan fo angen. Rhif ffôn Hwb Ymwelwyr Iechyd: 07970 501 609- (9.am -5pm, dydd Llun i ddydd Gwener, dim penwythnosau na gwyliau banc, nodwch na all y gwasanaeth hwn dderbyn testunau).
- Gofal Plant Rhan Amser o Ansawdd Uchel wedi ei ariannu ar gyfer plant 2-3 mlwydd oed
Cynnigir gofal plant mewn lleoliad o'ch dewis chi am 2 awr a hanner bob dydd, 5 diwrnod yr wythnos amd 39 wythnos y flwyddyn. - Cymorth Rhianta trwy gwaith 1:1 neu trwy grwpiau lleol
- Cymorth i ddatblygu sgiliau iaith cynnar, cyfathrebu a siarad trwy gwaith 1:1 neu grwp i fagu sgiliau ac ymwybyddiaeth.
O dan amodau arferol, mae Dechrau'n Deg ar gael i bob teulu cymwys sydd yn byw mewn Cod Post Dechrau'n Deg yn yr ardaloedd a ganlyn:
- Aberteifi
- Penparcau
- Llanarth
- Llandysul
- Aberporth
Ar hyn o bryd mae pob un o'n grwpiau ar-lein ar gael i bob teulu ar draws Sir Ceredigion.
I gael mwy o wybodaeth am ein holl grwpiau a chyrsiau, neu i gysylltu â ni, gallwch:
- Teipiwch #DechraunDegCeredigion neu #ODan5Ceredigion yn y bar chwilio ar DEWIS.
- Dewch o hyd i'n tudalen Geplyfr - Teuluoedd Ceredigion Families.
- Ffoniwch ni ar 07812 487 823 neu 07816 086 595.
- E-bostiwch dechraundeg@ceredigion.gov.uk
I gael gwybod mwy am sut y gallai Dechrau’n Deg helpu eich teulu chi, dilynwch y ddolen i’r fideo hwn.
Cliciwch isod er mwyn gweld ein taflenni defnyddiol a ddatblygwyd gan ein Therapyddion Iaith a Lleferydd yn ddiweddar. Mae’r taflenni’n llawn cyngor defnyddiol er mwyn helpu sgiliau siarad a gwrando cynnar eich plentyn:
Teledu, Ffonau, Radio a thabledi
Cymorth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Dechrau’n Deg
Am fwy o wybodaeth ar Dechrau’n Deg Ceredigion ewch i:
Tudalen Facebook - Teuluoedd Ceredigion Families
Wefan Dewis Cymru - Dechrau’n Deg Ceredigion