Rhaid i ddarparwyr Gofal Plant Cofrestredig gydymffurfio â safonau a nodir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Mae CIW hefyd yn eu harchwilio i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu bodloni.

Gellir gweld adroddiadau arolygu ar gyfer Darparwyr Gofal Plant Cofrestredig yma:

Mae rhai lleoliadau gofal plant yn darparu addysg cyfnod sylfaen feithrin / blynyddoedd cynnar a ariennir gan yr Awdurdod Lleol, a byddant yn cael eu harolygu ar y cyd gan AGC ac Estyn.

 

Cyn i chi benderfynu pa ddarparwr gofal plant rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio, mae'n werth ymweld â rhai darparwyr gwahanol.

Gwiriwch fod y darparwr gofal plant rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio yn gallu darparu eich anghenion chi a'ch plentyn CYN cofrestru eich plentyn gyda nhw.

Bydd contract rhwng y teulu a'r darparwr gofal plant. Sicrhewch eich bod yn darllen ac yn deall telerau ac amodau'r contract hwn a fydd yn cynnwys trefniadau talu, oriau, gwyliau, polisïau a gweithdrefnau.

Cliciwch yma i chwilio am Darparwyr Gofal Plant yng Ngheredigion: Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd

Os na allwch ddod o hyd i ddarpariaeth gofal plant sy'n cwrdd â'ch anghenion, cewch i wefan Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd neu cysylltwch ar 01545 574200.

 

Beth ddylwn i ei ystyried wrth ddewis gofal plant?

Darparwyr gofal plant cofrestredig

Bydd darparwyr gofal plant cofrestredig yn gwbl gymwys, wedi'u hyswirio ac yn cael eu arolygu'n rheolaidd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)..

Dyma rai ffactorau sydd angen eu hystyried wrth ddewis gofal plant cofrestredig:

  • A fyddai'n haws trefnu'r gofal plant yn agosach at eich cartref neu'ch gweithle - neu'n agos at yr ysgol a ffefrir yn y dyfodol?
  • Ystyriwch eich amser teithio a'ch patrymau gwaith
  • A oes gennych gynllun wrth gefn os cewch eich oedi yn y gwaith neu os bydd argyfwng?
  • Sicrhewch eich bod yn deall y strwythur ffioedd. A yw'n cynnwys prydau bwyd, byrbrydau, cewynnau a diwrnodau allan?
  • Ydych chi'n deall y cytundeb gan gynnwys y cyfnod rhybudd os ydych chi am newid eich trefniadau gofal plant?

Ystyriwch y pwyntiau canlynol hefyd:

  • Beth fydd yn digwydd os yw'ch babi yn sâl. A oes gennych drefniadau ar waith os na allant fynd i ofal plant?
  • Os yw'r gofalwr yn sâl beth fydd yn digwydd?
  • A yw'r gofal plant yn cael ei ddarparu trwy gydol y flwyddyn? Gan gynnwys yn ystod gwyliau'r ysgol?
  • A fyddai disgwyl i chi gydlynu'ch gwyliau gyda'ch darparwr gofal plant?

 

Gofal plant anffurfiol ac anghofrestredig

Os bod aelod o'r teulu neu ffrind yn darparu gofal plant anffurfiol ac anghofrestredig, gall hyn edrych fel opsiwn ‘rhatach’. Ond ni fyddech yn gymwys am unrhyw gymorth ariannol e.e. Gofal Plant Di-dreth, Cyllid Cynnig Gofal Plant (Help gyda Chostau Gofal Plant).

Pethau i ystyried:

  • A fyddant yn darparu gofal yn eich cartref chi neu un nhw? Mae angen i chi feddwl am salwch a gwyliau hefyd
  • Ni fydd darparwyr gofal plant anghofrestredig neu anffurfiol wedi'u hyswirio ac efallai na fydd ganddynt gymwysterau pwysig fel hyfforddiant Cymorth Cyntaf

Mae mathau eraill o ofal plant anghofrestredig / heb ei reoleiddio yn cynnwys clybiau a gynhelir mewn ysgolion gan athrawon, gwersylloedd chwaraeon / gweithgareddau chwaraeon, clybiau gweithgareddau gwyliau, clybiau rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol).

 

Cymorth Ariannol

Edrychwch i mewn i gymorth ariannol gyda chostau gofal plant e.e. Gofal Plant Di-dreth, Cynnig Gofal Plant.

Mae mwy o wybodaeth am help gyda chostau gofal plant ar gael yma: Help gyda chostau Gofal Plant.

Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, neu os ydych chi'n credu bod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn, gofynnwch i'ch darparwr gofal plant am Cynllun Cyfeirio neu Cynllun Ymuno.

Cynllun Cyfeirio

Mae Cynllun Cyfeirio yn cefnogi plant 2-4 oed gydag anabledd a / neu anghenion ychwanegol i gymryd rhan mewn chwarae addysgol a chyfleoedd dysgu yn ystod y tymor mewn lleoliadau cofrestredig cyn-ysgol.

Gwneir atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol, rhieni neu staff lleoliadau cyn-ysgol i Banel amlasiantaeth i'w gymeradwyo.

Ariennir y cynllun gan Grant Plant a Cymunedau Llywodraeth Cymru a cyllid Cyngor Sir Ceredigion, a'i reolir gan Mudiad Meithrin.

YMUNO

Mae Cynllun YMUNO yn cefnogi plant 3-14 oed gydag anghenion ychwanegol (hyd at 18 oed os yw’n anabl) sydd angen cymorth ychwanegol i fynychu gofal plant cofrestredig gan cynnwys clwb ar ôl ysgol, cynllun chwarae gwyliau a darpariaeth chwarae agored, er mwyn darparu cyfleon chwarae cynhwysol a gofal plant yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Ariennir y cynllun gan Gyngor Sir Ceredigion a'i reoli’r gan DASH Ceredigion.

Gall rhieni ofyn am fanylion yn eu clwb ar ôl ysgol lleol neu glwb gwyliau neu sesiwn chwarae mynediad agored.

Ewch i wefan DASH Ceredigion i gael y manylion llawn: Ymuno gan DASH Ceredigion

Wefan: DASH Ceredigion

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yw’r man cyntaf am gyngor a gwybodaeth ar wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr.

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor ynglŷn ag amrywiaeth o faterion teuluol, gan gynnwys:

  • Gofal plant a help gyda chostau gofal plant
  • Gofal iechyd
  • Addysg a Hyfforddiant
  • Gwasanaethau hamdden
  • Arian

Maen nhw'n gallu eich helpu chi i gysylltu ag arbenigwyr fydd yn rhoi help a chyngor i chi sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eich anghenion unigol chi.

Maen nhw hefyd yn gallu eich cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol ac at raglenni Llywodraeth Cymru.

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd a gallwch gysylltu â nhw drwy'r post, ar e-bost neu drwy godi'r ffôn. Gallwch gael gafael ar fanylion cyswllt Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd eich awdurdod lleol drwy dewis eich ardal ar ein hafan.

Wefan Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

Dewis gofal plant

Gwybodaeth ac arweiniad am yr hyn i chwilio amdano wrth ddewis gwasanaeth gofal plant:
Dewis gofal plant - Arolygiaeth Gofal Cymru

Gwybodaeth ac arweiniad am yr hyn i chwilio amdano wrth ddewis gwarchodwr plant:
Dewis gwarchodwr plant - Arolygiaeth Gofal Cymru

 

Dod o hyd i adroddiad arolygu

I ddod o hyd i adroddiad arolygu darparwyr gofal plant dilynwch y ddolen hon:
Arolygiaeth Gofal Cymru - Adroddiadau Arolygu

 

Codi pryder

Os oes gennych bryder ynghylch darparwr gofal plant, cysylltwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i drafod eich pryder:

Wefan: Arolygiaeth Gofal Cymru - Cysylltwch â ni

Ffôn: 0300 7900 126
E-bost: agc@llyw.cymru
Ffacs: 0872 437 7301

Post:
Arolygiaeth Gofal Cymru
Adeiladau'r Llywodraeth
Heol Picton
Caerfyrddin
SA31 3BT


I chwilio am ddarparwyr Gofal Plant yng Ngheredigion:

Lansiwch y linc chwilio ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd


Mathau o Ofal Plant

Mae Cylchoedd Meithrin (a elwir hefyd yn Ofal Dydd Sesiynol) yn cynnig gofal plant ac addysg trwy’r cyfrwng Cymraeg tra bod Cylchoedd Chwarae yn cynnig gofal plant ac addysg dwyieithog neu gyfrwng Saesneg I blant 2-4 oed.  Mae'r lleoliadau yma’n gofalu am blant am hyd at bedair awr y diwrnod, fel arfer hyd at bum niwrnod yr wythnos.  ond mae rhai bellach yn cynnig gwasanaeth diwrnod llawn ers cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3-4 oed.

Mae rhan fwyaf o leoliadau ar agor yn ystod tymor ysgol yn unig, ac mae rhai yn cael eu rheoli'n lleol gan gwirfoddolowyr, tra bod rhai yn gweithredu trwy gydol y flwyddyn.  Mae rhai lleoliadau yn cynnig gwasanaeth parhaus a/neu gasgliad o ysgolion cynradd lleol.

Yn nodweddiadol, bydd oedran y plant sy'n defnyddio'r ddarpariaeth yma o ddwy i bedair oed.  Bydd y plant yn gallu dysgu trwy chwarae a chymdeithasu o dan arweiniad staff proffesiynol, cymwysedig ac ymroddedig.

Mae Meithrinfeydd Dydd yn gofalu am blant o'u genedigaeth i fyny ac fel rheol maent yn gweithredu o foreau cynnar i nosweithiau hwyr, ac maent ar agor bum niwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn. Gall oriau agor amrywio. Mae llawer yn cynnig gwasanaeth casglu i ac o ysgolion lleol.

Mae rhai Cylch Meithrin / Cylchoedd Chwarae hefyd wedi'u cofrestru fel darparwyr Gofal Dydd Llawn (ar gyfer plant 2-4 oed) er mwyn darparu'r Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Gelwir Clybiau ar ôl Ysgol hefyd yn ddarparwyr Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol.

Mae’r lleoliadau gofal plant hyn yn cynnig ‘gofal y tu allan i’r ysgol’ i blant - naill ai cyn ysgol, ar ôl ysgol neu yn ystod gwyliau’r ysgol. Gallant fod wedi'u lleoli yn ysgol eich plentyn, ysgol leol arall neu adeilad arall a gellir eu defnyddio i ymestyn diwrnod ysgol plentyn. Mae'r plant yn tueddu i fod rhwng 3 a 12 oed a gall y lleoliad ddarparu gwasanaeth casglu o'r ysgol leol. Mae'r lleoliadau hyn yn cynnig amgylchedd diogel, pleserus ac ysgogol sy'n caniatáu i blant chwarae ac ymlacio.

Nid yw gofal plant heb ei reoleiddio (e.e. gwersylloedd chwaraeon, clybiau gweithgareddau gwyliau, teulu / ffrindiau, clybiau rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol) yn Clybiau Ôl Ysgol cofrestredig.

Mae clybiau neu cynlluniau gwyliau yn darparu ystod eang o weithgareddau chwarae i blant yn ystod gwyliau ysgol. Mae rhai'n cael eu rhedeg gan ysgolion, tra bod eraill yn cael eu rhedeg gan gyrff preifat neu wirfoddol. Mae costau'n amrywio rhwng clybiau gwyliau, ac fel arfer codir tâl arnoch am bob dydd bydd eich plentyn yn eu mynychu.

Mae gwarchodwr plant cofrestredig yn berson hunangyflogedig sy'n darparu cyfleoedd gofal a dysgu ar gyfer un neu ragor o blant trwy gydol y flwyddyn, yn eu cartrefi eu hunain.  Mae gwarchodwyr plant yn gymwys i ofalu am blant, ac yn darparu amgylchedd cartrefol.  Gall oed y plentyn fod o enedigaeth i fyny ac mae rhai yn gweithredu gyda chymorth cynorthwy-ydd neu gwarchodwr plant arall.  Gall oriau amrywio a gall gynnwys boreau cynnar hyd at nosweithiau hwyr a hyd yn oed penwythnosau.

Gall gwarchodwyr plant gynnig gofal cyn neu ar ôl Ysgol, gofal cofleidiol, a gofal yn ystod gwyliau ysgol.

Mae grwpiau rhieni a phlant bach / Cylch Ti a Fi yn cynnig cyfleoedd i blant a rhieni gymdeithasu mewn lleoliad anffurfiol a chyfeillgar.

Rhaid i rieni / gofalwyr aros gyda'u plentyn, gan nad ydyn nhw'n leoliadau gofal plant cofrestredig. Mae rhieni yn aml yn sefydlu'r grwpiau ac maen nhw'n cael eu rheoli gan bwyllgor o rieni a gwirfoddolwyr.

Mae clybiau brecwast fel arfer yn cael eu rhedeg gan ysgolion ac nid ydynt fel arfer yn ofal plant cofrestredig.

Maent yn cynnig lle diogel sy'n cael ei oruchwylio i blant fynd cyn yr ysgol. Maent yn darparu brecwast iach i ddisgyblion, ac yn arbennig o ddefnyddiol os yw'ch plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn gynnar.

Mae clybiau brecwast fel arfer yn cael eu rhedeg gan ysgolion ac nid ydynt fel arfer yn ofal plant cofrestredig.

Maent yn cynnig lle diogel sy'n cael ei oruchwylio i blant fynd cyn yr ysgol. Maent yn darparu brecwast iach i ddisgyblion, ac yn arbennig o ddefnyddiol os yw'ch plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn gynnar.

Chwarae Mynediad Agored yw darparu cyfleoedd chwarae mynediad agored wedi'u staffio i blant fel arfer yn absenoldeb eu rhieni.

Gall hyn fod yn ddarpariaeth barhaol neu dymor byr, wedi ei leoli mewn amrywiol sefyllfaoedd sydd â neu sydd heb adeilad arno gan gynnwys cynlluniau chwarae,  canolfannau chwarae, meysydd chwarae antur, a pharciau.

Mae'r ddarpariaeth fel arfer yn darparu ar gyfer ystod oedran eang o blant, fel arfer yn 5 oed neu'n hŷn. Nid yw plant yn gyfyngedig yn eu symudiadau, ac eithrio lle maent yn gysylltiedig â materion diogelwch, ac ni chânt eu hatal rhag mynd a dod fel y dymunant.

Cyflogir nani yn uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu sy'n gofalu am y plant yng nghartref un o'r teuluoedd.

Gall nanis gynnig: Gofal dydd llawn a gofal rhan amser gan gynnwys darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol gan gynnwys oriau hyblyg e.e. gyda'r nos, penwythnosau a darpariaeth dros nos, gofal cofleidiol a darpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol.

Cymeradwyo Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021

Mae’r Cynllun yma wedi disodli’r "Cynllun Nani", a weinyddir gan Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ar ran Llywodraeth Cymru ers mis Ebrill 2021. Ymhlith pethau eraill, mae bod yn rhan o'r cynllun yn galluogi rhieni sy'n defnyddio nani gymeradwy i gael cymorth ariannol drwy amrywiaeth o gonsesiynau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU, megis Credydau Treth, Credyd Cynhwysol a Gofal Plant Di-dreth, lle maent yn gymwys.

Gwybodaeth llawn yma:

Cymeradwyo Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 - Arolygiaeth Gofal Cymru