Rydym yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i helpu Ceredigion i wneud y newidiadau fydd angen eu rhoi ar waith gan ein bod ni bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y Cyngor yn adeiladu ar y gwaith paratoi sydd eisoes wedi’i wneud a bydd yn parhau â’r gwaith o geisio lliniaru effeithiau posibl Brexit ar ein cymunedau a'n busnesau.
Mae cynllun gwaith y Cyngor o ran addasu ar gyfer Brexit yn cynnwys y canlynol:
- Cynnal cyfarfodydd rheolaidd o Grŵp Arweiniol y Cyngor i gynllunio ar gyfer senarios posibl o ran Brexit yng Ngheredigion
- Adolygu holl wasanaethau’r Cyngor i weld sut y gallai Brexit effeithio arnynt. Mae cynlluniau ar waith i baratoi ar gyfer unrhyw effaith ar wasanaethau ac maent yn cael eu hadolygu o hyd
- Mynd i gyfarfodydd Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys. Mae’r sefydliadau sy’n perthyn i’r Fforwm wedi bod yn cydweithio â’i gilydd ar ddatblygu atebion i’r heriau a allai ddod yn sgil Brexit
- Darparu gwybodaeth i staff y gallai’r newidiadau hyn effeithio arnynt yn uniongyrchol
- Codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
- Cyfeirio busnesau at gyngor ynglŷn ag effeithiau Brexit
- Lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw lefelau ariannu Ceredigion yn gostwng ar ôl Brexit
- Gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chydlynwyr y trefniadau pontio i nodi’r strategaethau a’r adnoddau i’w defnyddio ar draws Ceredigion i gynorthwyo ag unrhyw newidiadau yn sgil Brexit
Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu traciwr (Saesneg yn unig) y gall busnesau ei ddefnyddio i gael rhestr bersonol o gamau gweithredu. Bydd yr offeryn gwirio yn gofyn cwestiynau am eich busnes ac yn darparu'r holl wybodaeth y mae angen ichi fod yn ymwybodol ohoni megis rheolau newydd ar a canlynol:
- Mewnforio ac Allforio
- Symud nwyddau i Ogledd Owerddon ac oddi yno gan gynnwys y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr
- Teithio tramor i weithio
- Cyflogi staff o'r Undeb Ewropeaidd