Mae trigolion Ceredigion yn cael eu hannog i ystyried cofrestru ar gyfer pleidlais drwy'r post ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol cyntaf ym mis Rhagfyr ers 1923.

Gydag wythnosau i fynd tan yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr, mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans yn dweud y gallai cofrestru am bleidlais bost helpu sicrhau bod pobl yn gallu pleidleisio ar adeg o'r flwyddyn lle gallai tywydd gwael eu hatal rhag cyrraedd eu gorsaf bleidleisio.

Dywedodd: “Mae etholiadau cyffredinol fel arfer yn cael eu cynnal yn y gwanwyn neu'r haf, felly gallwn ni fod bron yn gwbl sicr na fydd y tywydd yn rhwystro pleidleiswyr. Gallai etholiad ym mis Rhagfyr fod yn wahanol. Rydym i gyd yn gwybod sut y gall y tywydd fod yr adeg honno o'r flwyddyn; ac os oes tywydd rhewllyd a chawodydd eira, efallai na fydd rhai pleidleiswyr yn gallu teithio i'r orsaf bleidleisio.”

"Mae'n fater i bob pleidleisiwr benderfynu sut maen nhw'n pleidleisio, ond gallai pleidlais bost sicrhau bod eich pleidlais yn cyfrif hyd yn oed os bydd tywydd gwael yn effeithio ar 12 Rhagfyr. Gall pleidleiswyr ddewis pleidleisio drwy'r post am y tro hyn yn unig os ydynt fel arfer yn pleidleisio yn eu gorsaf bleidleisio.”

Mae rhaid i drigolion gofrestru i bleidleisio cyn cofrestru am bleidlais bost. Gall preswylwyr gofrestru am bleidlais drwy'r post drwy fynd i wefan y Llywodraeth: https://www.gov.uk/government/publications/apply-for-a-postal-vote neu drwy ffonio Tîm Gwasanaethau Etholiadol y cyngor ar 01545 570 881.

04/11/2019