Bydd y broses o gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael ei oedi am y tro er mwyn cynnal gwaith pellach ar y lefelau ffosffadau yn afon Teifi.

Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dystiolaeth am lefelau ffosffadau mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yng Nghymru, gan gynnwys afon Teifi yng Ngheredigion. Diweddarwyd datganiad sefyllfa cynllunio interim wedi hynny ym mis Mai 2021.

Mae afon Teifi yn llifo trwy rannau helaeth o Geredigion a byddai’r canllawiau newydd yn effeithio’n fawr ar sut y byddai’r cymunedau hyn yn datblygu yn ystod cyfnod nesaf y Cynllun Datblygu Lleol.

Yn ystod cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ar 21 Hydref 2021, cytunodd Cynghorwyr Ceredigion i oedi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd am y tro er mwyn casglu tystiolaeth a data hanfodol, ynghyd â chynllunio opsiynau lliniaru. Heb y gwaith hwn, ni fyddai’r Cyngor yn gallu ystyried rhannau helaeth o’r sir ar gyfer datblygiadau newydd tebyg i dai newydd neu fusnesau.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae Ceredigion yn adnabyddus am ei nodweddion amgylcheddol cyfoethog ac mae’n gartref i sawl ardal a nodwedd a ddynodwyd am eu pwysigrwydd amgylcheddol, gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi. O ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, bydd angen oedi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd am y tro i roi amser i opsiynau lliniaru gael eu hystyried o ran cefnogi datblygiadau newydd yn yr ardal. Ein nod yw sicrhau bod gennym gynllun datblygu yn y dyfodol a fydd yn gyson ledled Ceredigion gyfan.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol cyfagos i ganfod datrysiadau lleol a chenedlaethol i'r mater.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan: Ffosffadau yn Ardal Cadwraeth Arbennig afon Teifi 

21/10/2021