Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi prynu dau ysgubwr newydd sy’n rhedeg ar drydan i gymryd lle hen rai disel.

Mae'r ysgubwyr trydan newydd yn cymryd lle rhai disel sydd wedi cael eu defnyddio am sawl blwyddyn ac sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes defnyddio. Bydd yr ysgubwyr newydd yn cael eu defnyddio yn bennaf yng nghanol trefi Ceredigion i helpu i gadw'r strydoedd yn lân. Gan eu bod yn rhai trydan maent hefyd yn well i'r amgylchedd ehangach ac yn rhatach i’w rhedeg.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai. Dywedodd, “Bydd yr ysgubwyr newydd hyn o fudd mawr wrth gefnogi ymdrechion ein Tîm Glanhau Strydoedd i gadw trefi Ceredigion yn lân. Fel rhan o Garu Ceredigion gall pawb chwarae eu rhan yn hyn trwy ddelio â'u gwastraff gan gynnwys sbwriel, pennau sigaréts a gwastraff cŵn yn gyfrifol ac yn gyfreithiol. Byddai hyn yn help enfawr i gadw Ceredigion yn lân a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn lle gwych i ymweld â, byw a gweithio yn ogystal â chynnal y proffil cadarnhaol y mae'n ei haeddu.”

28/10/2019